Neidio i'r prif gynnwys

Mae Wal yr Anifeiliaid yn nodwedd boblogaidd o Gaerdydd, ac yn wreiddiol roedd yn cynnwys wyth anifail a osodwyd ar y wal o fynedfa Porth y De i Dŵr y Cloc. Cawsant eu symud i’w safle presennol yn 1928, ar ôl lledu’r ffordd o flaen y castell, ac ychwanegwyd saith anifail arall.

Roedd yr anifeiliaid cynnar yn cynnwys y llewod yn dal tarianau arfau Crichton-Stuart a Stuart o Bute a oedd bob ochr i Borth y De, ynghyd â llewod, hiena, môr-lew, epa gyda’i ifanc, blaidd ac arth wen. Cawsant eu cerfio gan y cerflunydd Thomas Nicholls o Lambeth rhwng 1887 a 1889.

Disodlwyd yr arth wen gan arth pan gerfiwyd y saith anifail arall rhwng 1928 a 1930. Y cerflunydd oedd Alexander Carrick o Gaeredin ac maent yn lyncs, fwltur, afanc, llewpard, racŵn, morgrug a pelican.

Mae llyfryn gyda mwy o fanylion am Wal yr Anifeiliaid ar gael o siop rhoddion y Castell.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.