Beth wyt ti'n edrych am?
Cynllunio Ymlaen Llaw: Cau Cynnar a Chau Ffyrdd (Sul 7 Medi)
Dydd Iau, 4 Medi 2025
Castell Caerdydd – Sul 7 Medi
Sylwch y cynhelir digwyddiad ffarwel i ddathlu gyrfa’r seiclwr o Gymru, Geraint Thomas, ar dir y Castell ddydd Sul 7 Medi. O ganlyniad, mynediadau olaf i’r cyhoedd brynu Tocynnau Castell fydd am 14:30. Nodwch hefyd na fydd Tocynnau Castell ac Allweddi Castell yn rhoi mynediad i ardal Diolch, G!
Cau Ffyrdd Canol y Ddinas – Sul, 7 Medi
Gyda disgwyl i filoedd o redwyr gymryd rhan yn ras 10K Caerdydd Brecon Carreg, a cham olaf Taith Prydain Lloyds yng Nghaerdydd ddydd Sul, 7 Medi, bydd nifer o ffyrdd ar gau i hwyluso’r digwyddiadau hyn.
Gyda 10K Caerdydd yn dechrau am 10am, bydd ffyrdd yn cau fesul cam, rhwng 9am ac 1pm, ar hyd y llwybr i hwyluso’r ras, gyda ffyrdd pellach ar gau rhwng 3am a 6pm i baratoi ar gyfer, a hwyluso, cymal olaf Taith Prydain, pan fydd Geraint Thomas yn cystadlu yn ei ras feicio broffesiynol olaf.
Cau Ffyrdd i sefydlu Pentref y Ras
O 5am ddydd Sadwrn 6 Medi hyd at 6pm ddydd Sul 7 Medi, bydd y ffyrdd canlynol ar gau yn y Ganolfan Ddinesig:
Rhodfa’r Brenin Edward VII, Heol Corbett, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.
Cau ffyrdd ar gyfer Ras 10K Caerdydd
Rhwng 9am ac 1pm, bydd ffyrdd yn cau fesul cam ar y ffyrdd canlynol:
- Heol y Gogledd, o’r gyffordd â Heol Colum hyd at y gyffordd â Boulevard De Nantes – Mynediad i’r Gored Ddu drwy Blas y Parc/Heol Corbett a bydd mynediad i Sgwâr y Frenhines Anne yn cael ei reoli drwy Heol Colum/Heol Corbett, gyda ffordd allan drwy Heol Corbett a thrwy Heol Colum)
- Heol y Gogledd i’r de o’r gyffordd â Boulevard de Nantes i’r gyffordd â’r A4161
- Yr A4161 o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Ffordd y Brenin
- Ffordd y Brenin o’r gyffordd â’r A4161 i’r gyffordd â Heol y Dug
- Heol y Dug a Stryd y Castell ar eu hyd
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Stryd y Castell i’r gyffordd â Heol y Gadeirlan
- Boulevard De Nantes o’r gyffordd â Phlas y Parc/Stuttgarter Strasse i’r gyffordd â Heol y Gogledd
- Y Brodordy a Gerddi’r Brodordy, Heol y Porth, Stryd Wood, Y Gwter, Plas y Neuadd, Stryd y Cei, Sgwâr Canolog, Heol Scott, Stryd Havelock, a Heol y Parc
- Heol Eglwys Fair o’r gyffordd â Lôn y Felin drwodd i Blas y Neuadd
- Y Stryd Fawr o’r gyffordd â Stryd y Castell i’r gyffordd â Phlas y Neuadd
- Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare
- Fitzhamon Embankment , Stryd Despenser, Despenser Lane, Despenser Place, Plantagenet Street, Beauchamp Street, Stryd Clare, Heol Isaf y Gadeirlan, Brook Street, Mark Street, Green Street a Theras Coldsteam
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Stryd Neville/Stryd Wellington
- Stryd Neville o’r gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Bont-faen i’r gyffordd â Heol Isaf y Gadeirlan
- Stryd Wellington o’r gyffordd â heol Lecwydd (tuag at ganol y ddinas)
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Brenin
- Heol y Gadeirlan o’r gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Bont-faen i’r gyffordd â Heol Penhill
- Pob ffordd ochr sy’n dod allan ar Heol y Gadeirlan
- Hamilton Street, Talbot Street, Clos Sophia, Sophia Walk, Ffordd Feingefn yng Ngerddi Sophia, Plasturton Place, Dyfrig Street, Kyveilog Street, Sneyd Street, Dogo Street, Berthwin Street, Teilo Street, Gileston Road, Meldwin Street, Fairleigh Road, Fields Park Road, Denbeigh Street, Fairleigh Court a Heol Wilf Wooler
- Heol Penhill o’r gyffordd â Heol Llandaf/Caerdydd (tuag at ganol y ddinas yn unig)
- Bydd Rhodfa’r Gorllewin ar gau o’r gyffordd â Heol Excelsior hyd at y gyffordd â Lôn y Felin.
Rhwng 9am a 6pm, bydd mynediad i Heol y Brodyr Llwydion yn cael ei reoli wrth gyffordd Boulevard de Nantes / Plas y Parc i hwyluso symudiadau bysus a thrigolion / busnesau yn yr ardal yn unig.
SYLWER: Bydd y troi i’r dde gwaharddedig o Heol Colum i Heol Corbett yn cael ei ddirymu i hwyluso mynediad i Sgwâr y Frenhines Anne yn unig. Bydd hyn yn cael ei reoli gan stiwardiaid rheoli traffig.
I gael rhagor o wybodaeth am 10K Caerdydd Brecon Carreg, ewch i wefan trefnwyr y digwyddiad – https://www.cardiff10k.cymru/
Cau ffyrdd ar gyfer Taith Prydain
- Rhwng 3am a 6pm: Bydd Heol y Gogledd (Heol Colum i Boulevard de Nantes) ar gau gan gynnwys pob ffordd ymyl
- Rhwng 9am a 6pm: Bydd Ffordd y Brenin, Heol y Dug, Stryd y Castell, Heol Orllewinol y Bont-faen (Pont Treganna), a phob ffordd ymyl ar gau
- Rhwng 10am a 5pm: Bydd trosffordd Heol y Gogledd/Gabalfa a’r holl ffyrdd cysylltu ar gau.
Cau ffyrdd fesul cam ar gyfer Taith Prydain
Rhwng 1.30pm a 3pm, bydd y llwybr o’r Ffin Sirol ar hyd yr A469, Heol Draenen Pen-y-graig, Heol Caerffili, A470 i drosffordd Heol y Gogledd ar gau. Bydd yr holl draffig yn cael ei gynnal ar gyffyrdd wrth i feicwyr fynd heibio, a bydd y ffyrdd yn cael eu hailagor pan ystyrir ei bod yn ddiogel gwneud hynny.
Am ragor o wybodaeth am Daith Prydain, ewch i https://www.britishcycling.org.uk/tourofbritain