Neidio i'r prif gynnwys

Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2026 | Steve Anthony

Dyddiad(au)

25 Ebr 2026

Amseroedd

12:00

Lleoliad

Castell Caerdydd Stryd y Castell Caerdydd CF10 3RB

Map Google

MWY O WYBODAETH...

Ymunwch â’r awdur a’r darlunydd arobryn Steve Antony am ddigwyddiad stori llawen, rhyngweithiol sy’n cynnwys hoff arth gwrtais pawb, Mr Panda.

Bydd plant yn mwynhau sgwrs fywiog y tu ôl i’r llenni am sut cafodd Mr Panda ei greu, a sesiwn tynnu lluniau fesul cam llawn hwyl, gan ddysgu sut i dynnu llun Mr Panda eu hunain. Mae’r digwyddiad hwn yn berffaith ar gyfer darllenwyr ifanc a theuluoedd, ac mae’n dathlu caredigrwydd, creadigrwydd a’r gyfres Mr Panda boblogaidd – gyda digon o gyfleoedd i ymuno a gofyn cwestiynau.

Ers ei ymddangosiad cyntaf yn 2014, mae’r awdur-ddarlunydd arobryn Steve Antony hyd yn hyn wedi ysgrifennu a darlunio 18 o lyfrau lluniau ac wedi gwerthu dros filiwn o gopïau ledled y byd, ac mae 7 o’i deitlau wedi’u henwebu ar gyfer Medal Kate Greenaway.

Dysgwch am yr holl ddigwyddiadau sy’n digwydd fel rhan o Ŵyl Llen Plant Caerdydd 2026.