Neidio i'r prif gynnwys

Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2026 | Will Millard

Dyddiad(au)

25 Ebr 2026

Amseroedd

14:00

Lleoliad

Castell Caerdydd Stryd y Castell Caerdydd CF10 3RB

Map Google

MWY O WYBODAETH...

Ymunwch â Will Millard wrth iddo siarad am ei lyfr lluniau twym-galon, The Squirrel Who Lost her Nuts! Wedi’i hysbrydoli gan ddigwyddiadau go iawn, mae’r stori yn dilyn gwiwer ifanc sy’n cael trafferth wrth ddod o hyd i guddfan i’w bwyd nes bod cwpl o fodau dynol sy’n poeni amdani yn camu i’r adwy i’w helpu.

Yn ystod y sesiwn, bydd plant yn clywed am wiwerod a’r digwyddiadau go iawn y tu ôl i’r stori wir, yn ogystal â dysgu am sut maen nhw’n gallu helpu’r byd naturiol.

Mae Will Millard, o Dde Cymru, yn awdur arbenigol, yn gyflwynydd gyda’r BBC ac yn arweinydd alldeithiau. Wedi’i eni a’i fagu yn Ffeniau Lloegr, ef yw cyflwynydd y gyfres BBC Two ‘Hunters of the South Seas’ a ‘My Year With The Tribe’, gan ennill BAFTA Cymru am ei waith, ac yn ddiweddar mae wedi cyflwyno ‘Hidden Wales with Will Millard’ ar BBC One.

Dysgwch am yr holl ddigwyddiadau sy’n digwydd fel rhan o Ŵyl Llen Plant Caerdydd 2026.