Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Teithio ar gyfer Gemau Rygbi Rhyngwladol yr Hydref yn Stadiwm Principality

Dydd Iau, 8 Hydref 2026


 

Bydd cyfres o ffyrdd ar gau yng nghanol dinas Caerdydd ar gyfer gemau rhyngwladol yr Hydref Cymru yn Stadiwm Principality fis Tachwedd eleni.

Mae’r gemau fel a ganlyn:

  • Dydd Sadwrn 7 Tachwedd – Cymru v Japan, cic gyntaf 4.40pm
    Ffyrdd ar gau: 12.30pm i 9pm
    Cyfyngiadau Rhodfa’r Orsaf: 6.15pm i 7.45pm
  • Dydd Sadwrn 14 Tachwedd – Cymru v Seland Newydd, cic gyntaf 2.10pm
    Ffyrdd ar gau: 10am i 6.15pm
    Cyfyngiadau Rhodfa’r Orsaf: 3.30pm i 5pm
  • Dydd Sadwrn 21 Tachwedd – Cymru v Awstralia, cic gyntaf 8.10pm
    Ffyrdd ar gau: 4pm i hanner nos
    Cyfyngiadau Rhodfa’r Orsaf: 9pm i 10.30pm

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn oherwydd – felly cynlluniwch ymlaen llaw i osgoi’r tagfeydd yng Nghaerdydd trwy ddefnyddio’r cyfleusterau parcio a theithio yn y maes parcio ger Arena Vindico ar Rhodfa Ryngwladol yn y Pentref Chwaraeon – CF11 0JS.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y draffordd a’r cefnffyrdd, ewch i wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.

Mae pobl sy’n mynd i’r gêm rygbi yma yn cael eu cynghori’n gryf i gynllunio eu taith ymlaen llaw a chyrraedd y stadiwm yn gynnar.  Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn Principality Stadium, yn enwedig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i’r ddinas.

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn treialu system newydd gan ddefnyddio gorsafoedd rheilffordd Caerdydd Canolog a Heol y Frenhines Caerdydd.  Bydd cefnogwyr sy’n mynd adref ar wasanaethau’r Cymoedd a’r Fro yn cael eu cyfeirio at orsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn hytrach na Chaerdydd Canolog, ond bydd gwasanaethau trên prif linell gan gynnwys Glynebwy yn parhau i ddefnyddio Canol Caerdydd.

Argymhellir yn gryf bod pawb sy’n mynychu’r digwyddiadau hyn ac yn dymuno parcio eu cerbyd, neu archebu’r parcio a theithio, yn cadw lle ymlaen llaw trwy’r ddolen ganlynol: https://www.justpark.com/uk/event-parking/cardiff-council?locale=cy

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas ar gyfer pob digwyddiad:

  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n gyfan gwbl:  Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa’r Orsaf a Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd.  Y rheswm dros hyn yw i sicrhau mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.

Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i’r gêm orffen ac am hyd at awr wedi’r chwiban olaf am resymau diogelwch i deithwyr trên sy’n cyrraedd a gadael yr orsaf drenau.

Mynediad i’r Ganolfan Ddinesig

Bydd mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig yn cael ei reoli trwy gydol y dydd, gyda mynediad ond yn cael ei ganiatáu ar gyfer parcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, gweithgareddau llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat.

Dyma’r ffyrdd fydd yn cael eu heffeithio:

  • Rhodfa’r Brenin Edward VII
  • Rhodfa’r Amgueddfa
  • Heol Neuadd y Ddinas
  • Heol y Coleg
  • Heol Gerddi’r Orsedd

Trenau

Great Western Railway (GWR)

Bydd GWR yn rhedeg gwasanaethau ychwanegol i Gaerdydd Canolog ac oddi yno ar gyfer Gemau Rhyngwladol yr Hydref.

Bydd trenau ychwanegol yn weithredol rhwng Caerdydd ac Abertawe, Casnewydd, Bryste a Llundain; gyda digon o leoedd parcio ar gael ym meysydd parcio’r gorsafoedd.

Bydd angen archebu tocyn ar gyfer pob trên cyn y gemau, felly dylai cwsmeriaid archebu tocyn ymlaen llaw i osgoi cael eu siomi.

Disgwylir i’r trenau yn syth ar ôl y gemau rhyngwladol fod yn brysur iawn a bydd system giwio ar waith y tu allan i Gaerdydd Canolog i helpu pobl i fynd ar y trenau’n ddiogel.

Dylai’r rhai sy’n teithio’n bellach wirio gwasanaethau cyswllt yn www.gwr.com/check.

Bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn darparu capasiti ychwanegol lle bo’n bosibl ar lwybrau i Gaerdydd ac oddi yno ar gyfer gemau Cyfres Cenhedloedd yr Hydref.

Bydd system giwio lawn ar waith ar gyfer y tair gêm a bydd teithwyr sy’n teithio i’r Cymoedd neu Fro Morgannwg yn cael eu cyfeirio i orsaf Heol y Frenhines Caerdydd ar ôl pob gêm. Bydd yr holl giwiau eraill, gan gynnwys Glynebwy a Maesteg, yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd ciw hygyrchedd ar gael yn y naill orsaf neu’r llall.

Anogir pob cefnogwr sy’n teithio i gynllunio ymlaen llaw a chaniatáu digon o amser ar gyfer eu taith gan fod digwyddiadau pêl-droed yn cael eu cynnal ar yr un pryd, a disgwylir i’r gwasanaethau fod yn brysur.

Bydd gorsaf Cyfnewidfa Bws Caerdydd ar gau yn unol â threfniadau cau ffyrdd lleol ac wrth i’r paratoadau ddechrau ar gyfer rhaglen wella Caerdydd Canolog, mae meysydd parcio’r orsaf ar gau’n barhaol. Gall teithwyr barcio yn y maes parcio aml-lawr yn y Cei Canolog.

Bydd gwiriadau refeniw cyn ac ar ôl y digwyddiad yn cael eu cynnal yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Dylai teithwyr sicrhau eu bod wedi prynu eu tocyn trên cyn ymuno â’r system giwio.

Nodyn i’ch atgoffa bod talu wrth fynd ar gael ar hyn o bryd ar wasanaethau TrC a Thraws Gwlad ar draws rhwydwaith Metro De Cymru (ddim ar gael ar wasanaethau Great Western Railway [GWR]).

Dylai teithwyr sy’n defnyddio dull talu wrth fynd dapio i mewn yn eu gorsaf ymadael ac yna tapio allan gan ddefnyddio’r un dull talu drwy’r lonydd refeniw talu wrth fynd pwrpasol wrth adael Caerdydd Canolog. Bydd gwirfoddolwyr Trafnidiaeth Cymru ar gael i helpu gyda thapio i mewn ac allan.

Am ragor o wybodaeth ewch i – Pencampwriaeth y Cenhedloedd | Trafnidiaeth Cymru

Cyfleusterau Parcio a Theithio

Bydd cyfleusterau parcio a theithio digwyddiad yn defnyddio’r maes parcio ger Arena Vindico ar y Rhodfa Ryngwladol yn y Pentref Chwaraeon, Bae Caerdydd – CF11 0JS.

Y man gollwng yng nghanol y ddinas yw Ffordd Tresilian.

  • Dydd Sadwrn 7 Tachwedd – Cymru v Japan.

Bydd y bws cyntaf yn gadael am 10am, a’r bws olaf yn gadael am 8pm.

  • Dydd Sadwrn 14 Tachwedd – Cymru v Seland Newydd.

Bydd y bws cyntaf yn gadael am 10am, a’r bws olaf yn gadael am 6pm

  • Dydd Sadwrn 21 Tachwedd – Cymru v Awstralia

Bydd y bws cyntaf yn gadael am 12pm, a’r bws olaf yn gadael am 10pm.

Fel arall, gellir talu â cherdyn ar y diwrnod, ond ni dderbynnir taliadau arian parod.

Gellir archebu’r cyfleuster Parcio a Theithio ymlaen llaw drwy’r ddolen ganlynol: https://www.justpark.com/uk/event-parking/cardiff-council?locale=cy

Y gost yw £15.  Cerdyn neu gadw lle ymlaen llaw yn unig. Ni dderbynnir taliadau arian parod.

Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Ceir a Choetsys)

Argymhellir yn gryf bod pawb sy’n mynychu’r digwyddiadau hyn ac yn dymuno parcio eu cerbyd yn cadw lle ymlaen llaw trwy’r ddolen ganlynol: https://www.justpark.com/uk/event-parking/cardiff-council?locale=cy

Cyrraedd yno:  Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 tua chanol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.

Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 i goets – Cerdyn neu gadw lle ymlaen llaw yn unig.

Amseroedd parcio:   Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

Parcio ar Ddiwrnod y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Argymhellir yn gryf bod pawb sy’n mynychu’r digwyddiadau hyn ac yn dymuno parcio eu cerbyd yn cadw lle ymlaen llaw trwy’r ddolen ganlynol: https://www.justpark.com/uk/event-parking/cardiff-council?locale=cy

Cyrraedd yno:  Gadewch ar gyffordd 32 yr M4

Cost: £20 i geir a £30 i goetsys – Cerdyn neu gadw lle ymlaen llaw yn unig.  Ni dderbynnir taliadau arian parod.

Amseroedd parcio:   Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog.  Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol.  Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Bws

Bysus lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:  Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.

Allwch chi feicio neu gerdded?

Bydd y beicffyrdd a’r beicffyrdd dros dro o fewn yr ardal cau ffyrdd yn parhau ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y digwyddiad, ond oherwydd nifer y bobl y disgwylir iddynt fynychu’r gêm rygbi, gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a thalu sylw.

Mae’r trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i feiciau â phedalau.

Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau beicio neu gerdded. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio’n hawdd mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n beicio ar hyn o bryd wneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol byth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd:  Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia.  Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Bydd safle tacsi Heol Eglwys Fair yn cau yn unol ag amserau cau ffyrdd ar gyfer pob digwyddiad.