DEPOT Live: Kraftwerk
Dyddiad(au)
23 Meh 2027
Amseroedd
17:00 - 22:30
MWY O WYBODAETH...
DEPOT Live Presents
KRAFTWERK
Mae arloeswyr cerddoriaeth electronig yn dod â’u sioe fyw i diroedd y castell am un noson yn yr awyr agored. Mae’n cyfuno cerddoriaeth electronig, animeiddio cyfrifiadurol a chelf berfformio i greu’r hyn y mae’r band yn ei alw’n *Gesamtkunstwerk* – gwaith celf cyflawn.
Sefydlodd Ralf Hütter a Florian Schneider y band Kraftwerk ym 1970 yn eu stiwdio, Kling Klang, yn Düsseldorf – y lle y crëwyd pob un o albymau Kraftwerk. Erbyn canol y saithdegau, roedd eu tirweddau sain electronig a’u harbrofion gyda roboteg wedi gwneud iddynt ennill enwogrwydd rhyngwladol. Daeth lleisiau synthetig a rhythmau cyfrifiadurol yn drac sain i’r oes ddigidol, ac mae eu dylanwad yn ymestyn ar draws genres fel electro, hip hop, techno a synth-pop.
SYLWER nad yw Castell Caerdydd yn gyfrifol am reoli’r digwyddiad hwn, nid ydym yn ymdrin ag unrhyw werthiannau tocynnau ac ni allwn gynghori ar unrhyw archebion na’u diweddaru.
Os ydych eisoes wedi prynu tocynnau, cysylltwch â gwasanaethau cwsmeriaid eich darparwr tocynnau yn uniongyrchol, gan ddyfynnu eich cyfeirnod archebu.
CYFYNGIAD OEDRAN: Digwyddiad 14+. Rhaid i bawb dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn (18 oed neu hŷn). Ni chaniateir i unrhyw un dan 18 oed fod ar y safle heb oedolyn gyda nhw.
Cliciwch yma am restr o eitemau gwaharddedig ynghyd â; gwaherddir pramiau a throlïau.
Am unrhyw ymholiadau pellach ynghylch eitemau gwaharddedig, cysylltwch â threfnwyr y digwyddiad yn uniongyrchol yn info@depotcardiff.com
GWYBODAETH AM Y DIGWYDDIAD
CYFYNGIAD OEDRAN: Rhaid i bob person dan 18 oed fod yng nghwmni deiliad tocyn oedolyn (18 oed neu hŷn). Ni chaniateir i unrhyw un dan 18 oed fod ar y safle heb gwmni.
Cliciwch yma am restr o eitemau gwaharddedig; gwaherddir pramiau a throlïau hefyd.
Am unrhyw ymholiadau pellach ynghylch eitemau gwaharddedig, cysylltwch â threfnwyr y digwyddiad yn uniongyrchol yn info@depotcardiff.com