DEPOT Live: Franky Rizardo
Dyddiad(au)
07 Aws 2027
Amseroedd
17:00 - 22:30
MWY O WYBODAETH...
DEPOT Live a Shangri-La
Franky Rizardo
Mae Franky Rizardo yn dod â’i sain ‘house’ egnïol i DEPOT Live yng Nghastell Caerdydd ddydd Sadwrn 7 Awst 2027, gan drawsnewid un o dirnodau mwyaf eiconig Cymru yn llawr dawnsio enfawr yn yr awyr agored.
Franky yw’r DJ o’r Iseldiroedd sydd â’r galw mwyaf rhyngwladol amdano, ac mae ei setiau’n cyfuno rhythm, egni ac emosiwn. Fel aelod allweddol o deulu Music On, mae’n perfformio ar rai o lwyfannau mwyaf y byd, gyda phresenoldeb rheolaidd yn Pacha Ibiza, Space Miami a Reframe Studios yn Los Angeles.
Yn y stiwdio, mae ei gynhyrchiadau wedi cronni miliynau o ffrydiau ledled y byd, ac mae ei label, LTF Records, yn un o’r 10 label cerddoriaeth ‘house’ sy’n gwerthu orau ar Beatport.
SYLWER nad yw Castell Caerdydd yn gyfrifol am reoli’r digwyddiad hwn, nid ydym yn ymdrin ag unrhyw werthiannau tocynnau ac ni allwn gynghori ar unrhyw archebion na’u diweddaru.
Os ydych eisoes wedi prynu tocynnau, cysylltwch â gwasanaethau cwsmeriaid eich darparwr tocynnau yn uniongyrchol, gan ddyfynnu eich cyfeirnod archebu.
CYFYNGIAD OEDRAN: Digwyddiad 14+. Rhaid i bawb dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn (18 oed neu hŷn). Ni chaniateir i unrhyw un dan 18 oed fod ar y safle heb oedolyn gyda nhw.
Cliciwch yma am restr o eitemau gwaharddedig ynghyd â; gwaherddir pramiau a throlïau.
Am unrhyw ymholiadau pellach ynghylch eitemau gwaharddedig, cysylltwch â threfnwyr y digwyddiad yn uniongyrchol yn info@depotcardiff.com
GWYBODAETH AM Y DIGWYDDIAD
CYFYNGIAD OEDRAN: Rhaid i bob person dan 18 oed fod yng nghwmni deiliad tocyn oedolyn (18 oed neu hŷn). Ni chaniateir i unrhyw un dan 18 oed fod ar y safle heb gwmni.
Cliciwch yma am restr o eitemau gwaharddedig; gwaherddir pramiau a throlïau hefyd.
Am unrhyw ymholiadau pellach ynghylch eitemau gwaharddedig, cysylltwch â threfnwyr y digwyddiad yn uniongyrchol yn info@depotcardiff.com