DEPOT Live: Royal Blood
Dyddiad(au)
16 Gorff 2027
Amseroedd
17:00 - 22:30
MWY O WYBODAETH...
DEPOT Live
ROYAL BLOOD
Taith yr Haf
gyda gwesteion arbennig Soft Play + Bad Nerves
Royal Blood fydd y prif act yn DEPOT Live yng Nghastell Caerdydd ddydd Gwener 16 Gorffennaf 2027, gan ddod â holl rym eu halbwm newydd, ‘Dead Company’, i un o’r llwyfannau mwyaf trawiadol yn y DU.
Ers i’w halbwm cyntaf ddod yn un o’r recordiau roc a werthodd gyflymaf y ganrif, mae Mike Kerr a Ben Thatcher wedi arwain pedwar albwm i’r safle rhif un yn y DU, gwerthu mwy na miliwn o recordiau, a datblygu i fod yn rym sy’n llenwi arenâu ac yn serennu ar lwyfannau gwyliau cerddoriaeth. Dyna lawer o sŵn i ddau berson.
SYLWER nad yw Castell Caerdydd yn gyfrifol am reoli’r digwyddiad hwn, nid ydym yn ymdrin ag unrhyw werthiannau tocynnau ac ni allwn gynghori ar unrhyw archebion na’u diweddaru.
Os ydych eisoes wedi prynu tocynnau, cysylltwch â gwasanaethau cwsmeriaid eich darparwr tocynnau yn uniongyrchol, gan ddyfynnu eich cyfeirnod archebu.
CYFYNGIAD OEDRAN: Rhaid i bawb dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn (18 oed neu hŷn). Ni chaniateir i unrhyw un dan 18 oed fod ar y safle heb oedolyn. Gall plant 2 oed ac iau ddod i mewn am ddim heb docyn. Rhaid i bob plentyn arall gael tocyn pris llawn i fynd i mewn i’r ŵyl. Sylwch na chaniateir bygis yn Depot Live.
Cliciwch yma am restr o eitemau gwaharddedig ynghyd â; gwaherddir pramiau a throlïau.
Am unrhyw ymholiadau pellach ynghylch eitemau gwaharddedig, cysylltwch â threfnwyr y digwyddiad yn uniongyrchol yn info@depotcardiff.com
GWYBODAETH AM Y DIGWYDDIAD
CYFYNGIAD OEDRAN: Rhaid i bob person dan 18 oed fod yng nghwmni deiliad tocyn oedolyn (18 oed neu hŷn). Ni chaniateir i unrhyw un dan 18 oed fod ar y safle heb gwmni.
Cliciwch yma am restr o eitemau gwaharddedig; gwaherddir pramiau a throlïau hefyd.
Am unrhyw ymholiadau pellach ynghylch eitemau gwaharddedig, cysylltwch â threfnwyr y digwyddiad yn uniongyrchol yn info@depotcardiff.com