Neidio i'r prif gynnwys

Gŵyl Y Gaeaf Caerdydd 2026

Dyddiad(au)

12 Tach 2026 - 03 Ion 2027

Amseroedd

11:00 - 22:00

Lleoliad

Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd CF10 3RB

Map Google

MWY O WYBODAETH...

O ddydd Iau 12 Tachwedd 2026 tan ddydd Sul 3 Ionawr 2027, bydd Winter Wonderland unwaith eto yn cael ei gynnal mewn dau leoliad eiconig yng nghanol y ddinas: ar dir Castell Caerdydd ac ar Lawnt Neuadd y Ddinas.

Bydd yn cynnwys y llawr sglefrio iâ dan do a’r ‘Ice Walk’ poblogaidd, yr Olwyn Fawr a ffair hwyl i’r teulu, bar ar thema llety sgïo yn yr Alpau (‘Sur la Piste’), yn ogystal â stondinau bwyd a diod yr ŵyl ac amrywiaeth eang o atyniadau eraill. Mae Winter Wonderland bob amser wrth galon dathliadau tymhorol Caerdydd.

Mae mynediad i’r ddau safle yn rhad ac am ddim, ond bydd angen talu am yr atyniadau rydych chi am eu mwynhau. Gellir archebu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer sesiynau sglefrio iâ ac ar gyfer yr Olwyn Fawr. Gellir prynu tocynnau ar gyfer reidiau’r ffair ar y safle, a gellir prynu bwyd a diod o’r bythau unigol.