Neidio i'r prif gynnwys

STORI O WRTHRYFEL, BRAD A LLOFRUDDIAETH

Gwrthryfel Llywelyn Bren – 1316

Darganfyddwch Hanesion y Tŵr Du yma yng Nghastell Caerdydd, profiad cyffrous newydd sy’n ail-adrodd stori Llywelyn Bren, arwr anghofiedig o hanes Cymru canoloesol.

Yn y 14eg ganrif, arweiniodd Llewelyn a’i ddilynwyr wrthryfel dewr yn erbyn Siryf gormes Morgannwg. Fe wnaethant ymladd yn galed ond methodd y gwrthryfel yn y diwedd a byddai Llewelyn yn talu gyda’i fywyd. Cafodd ei garcharu a’i lofruddio ar gam yn yr un Tŵr Du lle byddwch chi’n clywed y stori iasoer hon.

Dewch i gwrdd ag ysbrydion amser maith yn ôl wrth i’r atyniad trochiedig hwn dod â hanes yn fyw mewn ffordd na fyddwch yn ei anghofio yn fuan. Mae archebion ar gael nawr o swyddfa docynnau’r Castell, gofynnwch am ragor o fanylion.

AMSEROEDD

Amseroedd Straeon y Tŵr Du
10:30* 11:00 11:30 12:00
12:30 13:00 13:30 14:00
14:30 15:00 15:30 16:00*
16:30* 17:00*

*Sylwch fod slotiau 10:30, 16:00, 16:30 a 17:00 ar gael ddydd Gwe – Sul yn unig.

PRISAU TOCYNNAU

Uwchraddio’ch tocyn, Allwedd y Castell neu’r Tocyn Blynyddol Prisiau
Oedolyn £4.00
Plentyn
(5 – 16 oed, rhaid fod yng nghwmni oedolyn)
£3.00
Henoed / Myfyrwyr / Anabl
(un gofalwr am ddim gyda phob ymwelydd anabl)
£3.50
Tocyn Teulu Oedolion
(2 oedolyn a 2 blentyn)
£11.00
Tocyn Teulu Henoed
(2 henoed a 2 blentyn)
£10.00
Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.