Siôn Corn yn y Castell
Dyddiad(au)
05 Rhag 2026 - 22 Rhag 2025
Amseroedd
10:00 - 16:00
MWY O WYBODAETH...
Ymunwch ag ymweliad grŵp i gwrdd â Siôn Corn yn yr Ystafell Blant sydd wedi’i haddurno’n hyfryd yng Nghastell Caerdydd. Bydd cyfle i bob plentyn siarad â Siôn Corn yn unigol a dewis anrheg o blith detholiad o deganau o safon.
Tocynnau – £22.00 y plentyn, £17.50 yr oedolyn.
Bydd eich tocyn yn cynnwys:
- Mynediad i ddetholiad o ystafelloedd y Castell yn ogystal â’r tiroedd (Sylwer: Mae’r Castell yn cau am 17.00 ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr).
Hafliad trysor â thema Nadoligaidd o amgylch yr ystafelloedd (Cynghorir cwsmeriaid sy’n archebu teithiau prynhawn i gyrraedd yn gynnar i wneud hyn cyn eu hymweliad â Siôn Corn). - Cyfarfod grŵp â Siôn Corn, lle bydd plant yn cymryd eu tro i siarad ag ef a dewis anrheg.
- Disgownt o 10%* yn Siop Anrhegion Nadolig y Castell, sy’n ddilys tan Noswyl Nadolig (*mae cyfyngiadau’n berthnasol).
Bydd uchafswm o 10 plentyn ac 20 oedolyn ym mhob grŵp. Bydd angen tocyn dilys ar bawb sy’n mynychu, gan gynnwys yr holl oedolion sy’n cyd-fynd â’r plant.
| AMSEROEDD | |||
| 10:00 | 10:40 | 11:20 | 12:10 |
| 12:50 | 14:20 | 15:00 | 15:40 |
| 16:20 | |||
- Mae angen tocyn ar gyfer pob plentyn ac oedolyn sy’n mynychu. Nid oes angen tocyn ar fabanod dan 6 mis oed, ond ni fyddant yn gallu ymweld â Siôn Corn na derbyn anrheg heb un.
- Ymweliad grŵp i weld Siôn Corn yn yr Ystafell Feithrin yw hwn; ni ddylid ei gymysgu â’r teithiau preifat gyda’r nos a gynhaliwyd yn y gorffennol i weld Siôn Corn yn yr Ystafell Dderbyn.
- Yn anffodus, gan ei fod yn ddigwyddiad arbennig, ni fydd ‘Castle Keys’ na gostyngiadau eraill yn berthnasol.
- Byddwn yn cynnig dewis o anrhegion na fyddant wedi’u lapio.
- Mae’n ddrwg gennym, ond ni allwn warantu y bydd Siôn Corn yn siarad Cymraeg.
- Sylwch fod y tŷ yn adeilad hanesyddol ac mae mynediad yn golygu defnyddio grisiau cerrig a drysau cul. Yn anffodus, nid yw’r ystafelloedd yn hygyrch i bobl ag anawsterau symudedd ac nid oes mynediad i gadeiriau olwyn.
- Mae’r Castell yn cau am 17.00 ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr. Cynghorir cwsmeriaid sy’n archebu ymweliadau prynhawn â Siôn Corn i ymweld â’r ystafelloedd y tu fewn i’r Castell ac ardaloedd y tiroedd cyn gweld Siôn Corn.
- Mae eich tocyn yn ddilys ar gyfer yr amser a nodir ar eich archeb yn unig. Oherwydd prysurdeb y digwyddiad, ni fyddwn yn gallu eich derbyn os byddwch yn cyrraedd yn hwyr neu ar gyfer y sesiwn anghywir. Ceisiwch gyrraedd o leiaf 10 munud cyn amser eich sesiwn. Mae llawer o ddigwyddiadau ac atyniadau yn y Castell trwy gydol cyfnod y Nadolig, felly efallai yr hoffech gyrraedd yn gynnar i fanteisio arnynt.
- Sicrhewch eich bod yn gadael digon o amser i gyrraedd y Castell. Rydym wedi’n lleoli yng nghanol prifddinas brysur. Bydd traffig trwm a mwy o alw am leoedd parcio yn ymestyn amser y daith yn ystod mis Rhagfyr. Nid oes lle parcio ar y safle.
- Ni fydd ffotograffydd swyddogol yn bresennol, ond mae croeso i chi dynnu cymaint o luniau ag y dymunwch gan ddefnyddio camerâu a ffonau clyfar. Yn anffodus, ni chaniateir ffilmio’r ymweliad.
- Ni chaniateir mynd â chadeiriau gwthio i mewn i’r Tŷ Fictoraidd. Cewch wybod ble i adael cadeiriau gwthio wrth gyrraedd.
- Os bydd sesiwn yn cael ei chanslo’n annisgwyl oherwydd tywydd garw neu amgylchiadau annisgwyl eraill, dim ond os na fydd amser neu ddyddiad arall ar gael y rhoddir ad-daliad llawn. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, ac er mwyn osgoi siom, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’r Castell ar 029 2087 8100 cyn teithio.
- Ni ellir cael ad-daliad na chyfnewid y tocynnau. Os caiff unrhyw ddigwyddiad ei ganslo, ad-delir cost y tocyn, fodd bynnag, bydd yr asiant yn cadw unrhyw ffioedd archebu. Efallai yr hoffech ystyried yr opsiwn yswiriant tocynnau wrth wneud eich archeb.