Beth wyt ti'n edrych am?
Paddington Visits Castell Caerdydd
Amseroedd
10:00
MWY O WYBODAETH...
Rydyn ni mor gyffrous bod Paddington wedi cyrraedd Castell Caerdydd fel rhan o lwybr o 23 o gerfluniau arbennig ledled y DU ac Iwerddon, yn dathlu rhyddhau’r ffilm newydd PADDINGTON IN PERU.
Mae Paddington yn arth gyfeillgar a bydd angen llawer o gwmni, felly beth am gamu i esgidiau Mr. Gruber ac eistedd i lawr am damaid o de, brechdan neu ddwy, a pheidiwch ag anghofio cymryd hunlun.
LLEOLIAD
- Lleolir Paddington yn y Sgwâr Cyhoeddus yng Nghastell Caerdydd. Mae’n rhad ac am ddim i ymwelwyr fynd i mewn i’r rhan hon o’r safle.
DYDDIADAU AC AMSERAU
- Nid oes gan Paddington ddyddiad gadael eto, felly peidiwch â phoeni; bydd pawb yn cael cyfle i dreulio amser gydag ef.
- Ewch i’n tudalen we i gael gwybodaeth am ein horiau agor.
OEDDECH CHI’N GWYBOD?
- Nid Paddington yw ei enw ‘arth’ go iawn. Mae ganddo enw Periw ‘Pastuzo’ (ynganu mewn rhuo) y mae’n ei rannu gyda’i ewythr.
- Nid oes gan Paddington enw canol.
- Mae Paddington yn cael dau ben-blwydd y flwyddyn (yn union fel y Brenin)! Mae’n dathlu’r rhain ar 25 Mehefin a 25 Rhagfyr.
COFIWCH…
- “Mae arth ddoeth bob amser yn cadw brechdan marmaled yn ei het, rhag ofn y bydd argyfwng.”
Gofalwch am yr arth yma. Diolch.
Nid yw’n bob dydd y byddwn yn cael ymweliad gan arth mor enwog â Paddington ac rydym am i gymaint o ymwelwyr â phosibl fwynhau eu hamser gydag ef yn ystod ei arhosiad. Felly helpwch ni i ofalu am Paddington, cadwch yr ardal yn daclus a pheidiwch â gosod na gadael unrhyw eitemau arno, gan gynnwys dillad, sbwriel, diodydd, sticeri ac ati. Diolch yn fawr iawn.