Beth wyt ti'n edrych am?
Biffy Clyro
Dyddiad(au)
30 Gorff 2026
Amseroedd
17:00
MWY O WYBODAETH...
TK Maxx presents Depot Live at Cardiff Castle
BIFFY CLYRO
Gwesteion Arbennig: English Teacher + Humour
Mae eiconau roc yr Alban, Biffy Clyro, yn dychwelyd i Gymru’r haf hwn i arwain sioe awyr agored enfawr yng Nghastell Caerdydd fel rhan o TK Maxx yn cyflwyno DEPOT Live yng Nghastell Caerdydd.
Yn dilyn eu dyddiad hynod lwyddiannus yng Nghaerdydd ar Daith Futique, mae’r triawd yn dychwelyd oherwydd galw poblogaidd am un o sioeau byw mwyaf nodedig yr haf. Yn enwog am eu perfformiadau ffrwydrol a’u hanthemau llawn emosiwn, mae Biffy Clyro wedi meithrin enw da fel un o fandiau byw mwyaf pwerus a dibynadwy’r DU.
SYLWER nad yw Castell Caerdydd yn gyfrifol am reoli’r digwyddiad hwn, nid ydym yn ymdrin ag unrhyw werthiannau tocynnau ac ni allwn gynghori ar unrhyw archebion na’u diweddaru.
Os ydych eisoes wedi prynu tocynnau, cysylltwch â gwasanaethau cwsmeriaid eich darparwr tocynnau yn uniongyrchol, gan ddyfynnu eich cyfeirnod archebu.
CYFYNGIAD OEDRAN: Rhaid i bob person dan 18 oed fod yng nghwmni deiliad tocyn oedolyn (18 oed neu hŷn). Ni chaniateir i unrhyw un dan 18 oed fod ar y safle heb gwmni.
Cliciwch yma am restr o eitemau gwaharddedig ynghyd â; gwaherddir pramiau a throlïau.
Am unrhyw ymholiadau pellach ynghylch eitemau gwaharddedig, cysylltwch â threfnwyr y digwyddiad yn uniongyrchol yn info@depotcardiff.com
GWYBODAETH AM Y DIGWYDDIAD
CYFYNGIAD OEDRAN: Rhaid i bob person dan 18 oed fod yng nghwmni deiliad tocyn oedolyn (18 oed neu hŷn). Ni chaniateir i unrhyw un dan 18 oed fod ar y safle heb gwmni.
Cliciwch yma am restr o eitemau gwaharddedig; gwaherddir pramiau a throlïau hefyd.
Am unrhyw ymholiadau pellach ynghylch eitemau gwaharddedig, cysylltwch â threfnwyr y digwyddiad yn uniongyrchol yn info@depotcardiff.com