Neidio i'r prif gynnwys

DEPOT Live: Mariah Carey

Dyddiad(au)

29 Meh 2027

Amseroedd

17:00 - 22:30

Lleoliad

The Castle Green, Caerdydd Castle, Castle Street, Caerdydd, CF10 3RB

Map Google

MWY O WYBODAETH...

DEPOT Live Presents

MARIAH CAREY

Gyda: Eternal

Mae Mariah Carey, yr artist benywaidd sydd wedi gwerthu’r nifer mwyaf o recordiau erioed, yn dod â’i thaith ‘Firefly Summer Festivals Tour’ i DEPOT Live yng Nghastell Caerdydd ddydd Mawrth 29 Mehefin 2027. Dyma un o ddim ond pedwar dyddiad yn y DU.

Mae’r gantores, cyfansoddwraig a chynhyrchydd wedi gwerthu mwy na 200 miliwn o albymau ac wedi cael 19 o ganeuon yn cyrraedd rhif 1 ar siart Billboard Hot 100; ysgrifennodd 18 ohonynt ei hun. Mae hi wedi ennill pum gwobr GRAMMY o blith 34 o enwebiadau, mae ganddi dri Record Byd Guinness a Gwobr Cerddoriaeth y Byd (World Music Award) fel yr Artist Benywaidd a Werthodd y Nifer Mwyaf o Recordiau yn y Mileniwm, ac mae wedi cael ei derbyn i Oriel Anfarwolion Cyfansoddwyr (Songwriters Hall of Fame). Yn 2023, roedd hi’n un o’r 13 artist cyntaf i dderbyn gwobr ‘BRIT Billion’ am gyrraedd biliwn o ffrydiau yn y DU.

Y gwesteion arbennig ar y noson fydd Eternal. Ffurfiwyd y grŵp R&B pwerus hwn ym 1992, ac aethant ymlaen i werthu mwy na 10 miliwn o recordiau ledled y byd. Cyrhaeddodd eu halbwm cyntaf, *Always & Forever*, statws platinwm pedair gwaith, a chawsant 15 cân yn y 20 uchaf yn y DU, gan gynnwys y gân a gyrhaeddodd rif 1 ac ennill gwobr MOBO, *I Wanna Be the Only One*. Bellach, mae Easther Bennett, Vernie Bennett a Christel Lakhdar yn dod â’r harmonïau a’r caneuon poblogaidd yn ôl i’r llwyfan.

SYLWER nad yw Castell Caerdydd yn gyfrifol am reoli’r digwyddiad hwn, nid ydym yn ymdrin ag unrhyw werthiannau tocynnau ac ni allwn gynghori ar unrhyw archebion na’u diweddaru.

Os ydych eisoes wedi prynu tocynnau, cysylltwch â gwasanaethau cwsmeriaid eich darparwr tocynnau yn uniongyrchol, gan ddyfynnu eich cyfeirnod archebu.

CYFYNGIAD OEDRAN: Digwyddiad 14+. Rhaid i bawb dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn (18 oed neu hŷn). Ni chaniateir i unrhyw un dan 18 oed fod ar y safle heb oedolyn gyda nhw.

Cliciwch yma am restr o eitemau gwaharddedig ynghyd â; gwaherddir pramiau a throlïau.

Am unrhyw ymholiadau pellach ynghylch eitemau gwaharddedig, cysylltwch â threfnwyr y digwyddiad yn uniongyrchol yn info@depotcardiff.com

GWYBODAETH AM Y DIGWYDDIAD

CYFYNGIAD OEDRAN: Rhaid i bob person dan 18 oed fod yng nghwmni deiliad tocyn oedolyn (18 oed neu hŷn). Ni chaniateir i unrhyw un dan 18 oed fod ar y safle heb gwmni.

Cliciwch yma am restr o eitemau gwaharddedig; gwaherddir pramiau a throlïau hefyd.

Am unrhyw ymholiadau pellach ynghylch eitemau gwaharddedig, cysylltwch â threfnwyr y digwyddiad yn uniongyrchol yn info@depotcardiff.com

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.