Neidio i'r prif gynnwys

Sylwch: mae newidiadau i agoriad rheolaidd y Castell yn ystod mis Mawrth, gwiriwch cyn i chi ymweld

ORIAU AGOR

Mae Castell Caerdydd ar agor i ymwelwyr 7 diwrnod yr wythnos trwy gydol y flwyddyn, heblaw am 25 a 26 Rhagfyr, ac 1 Ionawr. Mae yna hefyd rai diwrnodau digwyddiadau arbennig yn ystod y flwyddyn lle mae mynediad yn agored i ddeiliaid tocynnau digwyddiad yn unig.

Amseroedd yr Haf (Maw – Hyd) Llun – Gwe Sad – Sul*
Amser Agor 10:00 09:00
Myendiad Olaf 17:00 17:00
Amser Cau 18:00 18:00

*ac ar bob dydd yn ystod gwyliau ysgol ac ar wyliau banc.

Amseroedd y Gaeaf (Tach – Chwe) Llun – Gwe Sad – Sul
Amser Agor 10:00 09:00
Myendiad Olaf 16:00 16:00
Amser Cau 17:00 17:00

*ac ar bob dydd yn ystod gwyliau ysgol ac ar wyliau banc.

PRISIAU MYNEDIAD CYFFREDINOL

Mwynhewch y Castell ar eich cyflymder eich hun, dringwch y Gorthwr Normanaidd, ymwelwch â Firing Line a’r Llochesi Rhyfel, darganfyddwch weddillion y Rhufeiniaid a rhyfeddwch yn Rhandai’r Castell, rhai o’r ystafelloedd wedi’u haddurno fwyaf moethus yr ydych chi erioed yn debygol o’u gweld.

Tocyn y Castell Prisiau
Oedolion £14.50
Plant
(5 – 16 Oed, rhaid fod yng nghwmni oedolyn)
£10.00
Henoed / Myfyrwyr / Anabl
(un gofalwr am ddim gyda phob ymwelydd anabl)
£12.00
Tocyn Teulu Oedolion
(2 oedolyn a 2 blentyn)
£39.00
Tocyn Teulu Henoed
(2 henoed a 2 blentyn)
£35.00
Dan 5 Oed AM DDIM
Teithiau o'r Castell

PRISIAU TEITHIAU

Os hoffech weld mwy o Gastell Caerdydd, neu ymchwilio yn ddyfnach i’w hanes hynod ddiddorol, yna beth am archebu lle ar un o’n teithiau tywys. Mae Teithiau Tŷ yn rhedeg bob dydd ar yr awr; ewch gydag un o’n tywyswyr arbenigol o amgylch Rhandai’r Castell, gweld mwy o’r ystafelloedd ysblennydd a dysgu am y phobl a’u creodd.

Taith y Tŷ Taith Tŵr y Cloc
Oedolion £4.00 £4.00
Plant
(5 – 16 Oed, rhaid fod yng nghwmni oedolyn)
£3.00 £3.00
Henoed / Myfyrwyr / Anabl
(un gofalwr am ddim gyda phob ymwelydd anabl)
£3.50 £3.50
Tocyn Teulu Oedolion
(2 oedolyn a 2 blentyn)
£11.00 £11.00
Tocyn Teulu Henoed
(2 henoed a 2 blentyn)
£10.00 £10.00

DILYNWCH EIN TAITH GLYWEDOL AM DDIM…

Dewch â'ch ffôn symudol, ynghyd â phâr o ffonau clust, a gallwch ddilyn ein taith glywedol trwy lawrlwytho'r ap yn rhad ac am ddim. Os na allwch ddefnyddio'ch ffôn am unrhyw reswm, mae setiau llaw ar gael i'w llogi (yn amodol ar argaeledd) o swyddfa docynnau'r Castell am ddim ond £2.

Tocyn Blynyddol

TOCYN BLYNYDDOL

Uwchraddio’ch Tocyn y Castell i Docyn Blynyddol ac ymweld â mynediad am ddim am flwyddyn gyfan! Byddwch hefyd yn cael gostyngiad o 10% yn Siop Rhoddion y Castell a Gwledda Ger y Gorthwr ynghyd â thocynnau gostyngedig ar gyfer rhai digwyddiadau arbennig.

Uwchraddio’ch tocyn mynediad cyffredinol i Docyn Blynyddol… Ffi Ychwanegol
Oedolion + £7.00
Plant
(5 – 16 Oed, rhaid fod yng nghwmni oedolyn)
+ £5.00
Henoed / Myfyrwyr / Anabl
(un gofalwr am ddim gyda phob ymwelydd anabl)
+ £6.00

 

ALLWEDD Y CASTELL

Os ydych chi’n byw neu’n gweithio yng Nghaerdydd, mae gennych hawl i’ch Allwedd y Castell eich hun gyda mynediad AM DDIM i’r atyniad treftadaeth hwn o’r radd flaenaf am 3 blynedd.

Y SGWÂR CYHOEDDUS

Man croesawgar, yn lleoliad hyfryd lawnt allanol y Castell, sy’n agored i bawb ei fwynhau am ddim. Prynwch gofrodd yn y Siop Rhoddion neu mynnwch luniaeth o Gaffi'r Castell. Gall twristiaid hefyd galw heibio safle Gwybodaeth Ymwelwyr Caerdydd, sydd wedi'i leoli ychydig y tu mewn i'r brif giât.

Y SGWÂR CYHOEDDUS

MYNEDIAD AM DDIM yn ystod oriau agor.

Mae croeso i ymwelwyr a defnyddwyr canol y ddinas ddod i mewn ac ymlacio yn lleoliad hyfryd lawnt allanol y Castell, yn rhad ac am ddim. Tra’ch bod chi yma, gallwch hefyd prynu cofrodd yn Siop Rhoddion y Castell neu fachu brathiad a diod yng nghegin a bar Teras y Gorthwr. Dylai ymwelwyr sy’n ceisio mwy o wybodaeth am y ddinas stopio ger Pwynt Gwybodaeth i Ymwelwyr Caerdydd, tu mewn i’r brif mynedfa.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.