SIX Outdoors | The Royal Homecoming Tour
Dyddiad(au)
23 Gorff 2027 - 25 Gorff 2027
Amseroedd
17:00 - 20:00
MWY O WYBODAETH...
Wedi ysgaru. Wedi colli pen. Yn yr awyr agored.
Mae haf 2027 yn cyflwyno’r daith awyr agored gyntaf erioed, wrth i’r sioe gerdd fyd-eang SIX ddathlu deng mlynedd ers iddi gyrraedd y llwyfan theatr ym Mhrydain am y tro cyntaf.
O Freninesau’r cyfnod Tuduraidd i Dywysogesau Pop, mae chwe gwraig Harri VIII yn camu at y meicroffon i drawsnewid 500 mlynedd o dor-calon hanesyddol yn ddathliad bywiog, 80 munud o hyd, o rym menywod yr 21ain ganrif.
Bydd y sioe lawn, gyda’i chynhyrchiad llwyfan cyflawn, yn cael ei pherfformio mewn deg lleoliad awyr agored ysblennydd – o gestyll hanesyddol a phalasau godidog i goedwigoedd hardd. Gyda chast o Freninesau o’r radd flaenaf o bob cwr o’r byd, ynghyd â band mawr o 16 o gerddorion, bydd y cwmni hwn – a ddaethpwyd ynghyd yn arbennig ar gyfer y digwyddiad – yn dod â’r gerddoriaeth bop eiconig yn fyw mewn ffordd nad ydych wedi’i chlywed o’r blaen.
Mwynhewch awyrgylch yr haf a naws yr ŵyl, a rhannwch brofiad bythgofiadwy gyda ffrindiau a theulu.
Gwnewch SIX OUTDOOR yn uchafbwynt disglair eich haf.
SYLWER nad yw Castell Caerdydd yn gyfrifol am reoli’r digwyddiad hwn, nid ydym yn ymdrin ag unrhyw werthiannau tocynnau ac ni allwn gynghori ar unrhyw archebion na’u diweddaru.
Os ydych eisoes wedi prynu tocynnau, cysylltwch â gwasanaethau cwsmeriaid eich darparwr tocynnau yn uniongyrchol, gan ddyfynnu eich cyfeirnod archebu.
CYFYNGIAD OEDRAN: Digwyddiad 14+. Rhaid i bawb dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn (18 oed neu hŷn). Ni chaniateir i unrhyw un dan 18 oed fod ar y safle heb oedolyn gyda nhw.
Cliciwch yma am restr o eitemau gwaharddedig ynghyd â; gwaherddir pramiau a throlïau.
Am unrhyw ymholiadau pellach ynghylch eitemau gwaharddedig, cysylltwch â threfnwyr y digwyddiad yn uniongyrchol yn info@depotcardiff.com
GWYBODAETH AM Y DIGWYDDIAD
CYFYNGIAD OEDRAN: Rhaid i bob person dan 18 oed fod yng nghwmni deiliad tocyn oedolyn (18 oed neu hŷn). Ni chaniateir i unrhyw un dan 18 oed fod ar y safle heb gwmni.
Cliciwch yma am restr o eitemau gwaharddedig; gwaherddir pramiau a throlïau hefyd.
Am unrhyw ymholiadau pellach ynghylch eitemau gwaharddedig, cysylltwch â threfnwyr y digwyddiad yn uniongyrchol yn info@depotcardiff.com