DEPOT Live: The Corrs
Dyddiad(au)
27 Meh 2027
Amseroedd
17:00 - 22:30
MWY O WYBODAETH...
DEPOT Live Presents
THE CORRS
Gyda: Natalie Imruglia, Dea Matrona
Teulu cerddorol enwocaf Iwerddon fydd y prif act yn DEPOT Live yng Nghastell Caerdydd yr haf nesaf, gan ddod â thri degawd o ganeuon poblogaidd i dir y castell ar gyfer un noson yn yr awyr agored.
Mae Andrea, Sharon, Caroline a Jim wedi gwerthu dros 40 miliwn o albymau ers eu halbwm cyntaf, *Forgiven, Not Forgotten*, a ryddhawyd ym 1995. Aeth eu cyfuniad o gerddoriaeth *pop-roc* caboledig, harmonïau agos a cherddoriaeth werin Geltaidd â hwy ar draws y byd. Cyrhaeddodd *Talk on Corners* y safle rhif 1 yn y DU; rhoddodd *Breathless* y sengl gyntaf iddynt gyrraedd rhif 1 yn y DU; ac aeth *In Blue* i frig y siartiau mewn 17 gwlad, gan ennill statws platinwm yn America.
SYLWER nad yw Castell Caerdydd yn gyfrifol am reoli’r digwyddiad hwn, nid ydym yn ymdrin ag unrhyw werthiannau tocynnau ac ni allwn gynghori ar unrhyw archebion na’u diweddaru.
Os ydych eisoes wedi prynu tocynnau, cysylltwch â gwasanaethau cwsmeriaid eich darparwr tocynnau yn uniongyrchol, gan ddyfynnu eich cyfeirnod archebu.
CYFYNGIAD OEDRAN: Digwyddiad 14+. Rhaid i bawb dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn (18 oed neu hŷn). Ni chaniateir i unrhyw un dan 18 oed fod ar y safle heb oedolyn gyda nhw.
Cliciwch yma am restr o eitemau gwaharddedig ynghyd â; gwaherddir pramiau a throlïau.
Am unrhyw ymholiadau pellach ynghylch eitemau gwaharddedig, cysylltwch â threfnwyr y digwyddiad yn uniongyrchol yn info@depotcardiff.com
GWYBODAETH AM Y DIGWYDDIAD
CYFYNGIAD OEDRAN: Rhaid i bob person dan 18 oed fod yng nghwmni deiliad tocyn oedolyn (18 oed neu hŷn). Ni chaniateir i unrhyw un dan 18 oed fod ar y safle heb gwmni.
Cliciwch yma am restr o eitemau gwaharddedig; gwaherddir pramiau a throlïau hefyd.
Am unrhyw ymholiadau pellach ynghylch eitemau gwaharddedig, cysylltwch â threfnwyr y digwyddiad yn uniongyrchol yn info@depotcardiff.com