Neidio i'r prif gynnwys

Mae Luna Cinema yn Ddychwelyd

Mae Sinema Awyr Agored #1 y DU yn dychwelyd ar gyfer haf 2021.

Dywedwch ffarwel â sinema yn yr ystafell eistedd a helo i sinema o dan y sêr!

Mae Luna Cinema yn dychwelyd i Gastell Caerdydd rhwng Iau 2 a Sul 5 Medi gyda rhestr o ffilmiau clasurol a theimlad dda i wneud eich haf.

Ar ôl misoedd o aros y tu fewn yn gwylio ffilmiau ar y sgrin fach, mae’n bryd mynd y tu allan am brofiad bythgofiadwy ar y sgrin fawr.

Gyda fwyd gwych, bar llawn, gyda gwasanaeth clicio a chasglu, uwchraddiad eistedd dewisol, ac wrth gwrs sgriniau anferth gyda sain anhygoel o’r radd flaenaf, ac mae gennych noson allan berffaith yr haf.

Beth ydych chi’n aros amdano? Casglwch eich ffrindiau, cynlluniwch y ddyddiad a mwynhewch noson o sinema o dan y sêr, wedi’i gosod i gefndir syfrdanol Castell Caerdydd.

Mae’r rhaglen o ffilmiau ar gyfer 2021 yn cynnwys Rocketman, biopic Elton John arobryn, Dirty Dancing clasurol o’r 80au, Star Wars: A New Hope a fersiwn Sing A Long o’r sioe gerdd ffilm boblogaidd The Greatest Showman.

Rhaid archebu ymlaen llaw ac oherwydd bellter cymdeithasol mae tocynnau yn gyfyngedig, felly archebwch eich lle yn gynnar er mwyn osgoi colli allan!

£16.00 (Oedolyn),
£11.00 (Plentyn)
(+ Uwchraddio am cadair £5)
Soffa Luna Luxe am 2 – £95

Edrychwch ar ein tudalen Beth Sy’ Mlaen i gael mwy o wybodaeth ac i archebu.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.