What are you looking for?
GOSTYNGIAD MIS RHAGFYR
Am weddill mis Rhagfyr, byddwn yn cynnig i ddeiliaid Allwedd y Castell ddwbl eu gostyngiad arferol yn ein Siop Roddion!
Felly, galwch heibio a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dod â’ch Allwedd am 20% oddi ar bopeth, gan gynnwys yr holl anrhegion hardd ac addurniadau Nadolig…
SIOP RODDION Y CASTELL
Mae detholiad eclectig o anrhegion a chofroddion prydferth wedi eu hysbrydoli gan gasgliadau’r Castell, aur Cymru, grisial a thlysau arbennig ar werth yn ogystal ag ystod eang o gardiau post, llyfrau a phapur. Gwerthir crefftau traddodiadol Cymreig hefyd, megis llwyau caru – gellir comisiynu cynlluniau unigol.
Yn yr adran blant, ar thema’r Castell, cewch bopeth y byddai darpar dywysog neu dywysoges ei angen; gemau, llyfrau, gwisgoedd modelau.
‘Hanfodion Castell Caerdydd’ yw’r arweiniad gorau i’r safle, yn adrodd dros 2,000 o flynyddoedd o hanes. Wedi ei ddarlunio’n brydferth, y llyfr hwn yw’r rhodd berffaith i gofio’r ymweliad. Mae llyfrau arbenigol ar Burges, yr arddull Gothig Fictorianaidd a chestyll yng Nghymru hefyd ar werth.
- Mae rhoddion corfforaethol ar gael ar gais
- Gwasanaeth archebu post ar gael
Yr un oriau agor â’r Castell.
Ffoniwch Siop Roddion y Castell ar 029 2078 8580 i drefnu pryniant.