Beth wyt ti'n edrych am?
CAFFI’R CASTELL
Wedi’i leoli ar deras eang y Castell, mae gan y llecyn hwn yr olygfa orau yng Nghaerdydd! Ymlaciwch yn yr ardal eistedd awyr agored dan do a mwynhau golygfeydd godidog y Gorthwr Normanaidd a thir y Castell.
Dewiswch o amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer a diodydd alcoholig, neu tretiwch eich hun i ddanteithion melys blasus.
Mae’r fwydlen lawn a’r rhestr brisiau ar gael wrth y cownter tecawê.
Mae Caffi’r Castell yn rhan o Sgwâr Cyhoeddus y Castell ac ar agor yn ystod yr un oriau, nid oes angen tocyn i godi cadair gan fod mynediad i’r sgwâr am ddim!
10% I FFWRDD Â'CH ALLWEDD Y CASTELL!
Os ydych chi'n byw neu'n gweithio yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, mae gennych hawl i'ch Allwedd y Castell eich hun gyda mynediad AM DDIM am o leiaf 3 blynedd. Mae deiliaid Allwedd hefyd yn derbyn gostyngiad o 10% yn siop rhoddion y Castell ac yng nghegin a bar Terras y Gorthwr.