Neidio i'r prif gynnwys

Siôn Corn yn y Castell

Dyddiad(au)

29 Tach 2025 - 22 Rhag 2025

Amseroedd

10:00 - 16:00

Lleoliad

Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd CF10 3RB

Map Google

MWY O WYBODAETH...

Ymunwch ag ymweliad grŵp i gwrdd â Siôn Corn yn y Feithrinfa yng Nghastell Caerdydd lle bydd Siôn Corn yn aros i’ch cyfarch. Bydd cyfle i bob plentyn siarad ag ef yn unigol a dewis anrheg o ddetholiad o deganau o safon.

Prisiau: Plant – £20.00 / Oedolion – £16.50

  • Mynediad i ddetholiad o ystafelloedd y Castell yn ogystal â’r tiroedd (Nodyn: Mae’r Castell yn cau am 17.00 ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr).
  • Helfa drysor â thema Nadoligaidd o amgylch yr ystafelloedd (Cynghorir cwsmeriaid sy’n archebu teithiau prynhawn i gyrraedd yn gynnar i wneud hyn cyn eu hymweliad â Siôn Corn).
  • Cyfarfod grŵp gyda Siôn Corn, gyda phlant yn cymryd eu tro i siarad â Siôn Corn a dewis anrheg.
  • Gostyngiad o 10%* yn Siop Anrhegion Nadolig y Castell, yn ddilys tan Noswyl Nadolig (*mae cyfyngiadau’n berthnasol – nid yw gostyngiadau’n ddilys ar gyfer prynu alcohol a gemwaith).

Bydd pob plentyn yn cwrdd â Siôn Corn a bydd yn gallu dewis ei anrheg o ddetholiad o deganau heb eu lapio. Bydd uchafswm o 10 o blant ac 20 o oedolion ym mhob grŵp.

Bydd angen tocyn dilys ar bawb sy’n mynychu, gan gynnwys yr holl oedolion sy’n dod gyda nhw.

AMSEROEDD
10:00 10:50 11:40 12:30
14:20 15:10 16:00
Gwybodaeth Ychwanegol

  • Mae angen tocynnau ar gyfer pob plentyn a phob oedolyn sy’n mynychu. Nid oes angen tocyn ar fabanod dan 6 mis oed ond ni fyddant yn gallu ymweld â Siôn Corn na derbyn anrheg heb un.
  • Ymweliad grŵp yn ystod y dydd yw hwn a pheidiwch â’i gymysgu â’n teithiau preifat gyda’r nos blaenorol.
  • Mae’n ddrwg gennym, gan mai digwyddiad arbennig yw hwn, na fydd Allweddi/gostyngiadau’r Castell yn berthnasol.
  • Byddwn yn cynnig dewis o anrhegion na fyddant yn cael eu lapio.
    Mae’n ddrwg gennym ond nid ydym yn gallu gwarantu Siôn Corn sy’n siarad Cymraeg.
  • Sylwch fod y Tŷ yn adeilad hanesyddol ac mae mynediad yn cynnwys grisiau cerrig a drysau cul. Mae’n ddrwg gennym nad yw’r ystafelloedd yn hygyrch i’r rhai sydd ag anawsterau symudedd ac nid oes mynediad i gadeiriau olwyn.
  • Dim ond am yr amser a nodir ar eich archeb y mae eich tocyn yn ddilys.
  • Oherwydd natur brysur y digwyddiad, ni fyddwn yn gallu eich darparu os byddwch yn cyrraedd yn hwyr neu ar gyfer y daith anghywir. Ceisiwch gyrraedd o leiaf 10 munud cyn eich taith. Mae yna lawer o ddigwyddiadau ac atyniadau yn y Castell drwy gydol cyfnod y Nadolig, ac efallai yr hoffech gyrraedd yn gynnar i fanteisio ar y rheini.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn caniatáu digon o amser i gyrraedd y Castell. Rydym wedi’n lleoli yng nghanol prifddinas brysur. Bydd traffig trwm a mwy o alw am barcio yn ychwanegu at amseroedd teithio yn ystod mis Rhagfyr. Nid oes parcio ar gael ar y safle.
  • Ni ellir mynd â chadeiriau gwthio i mewn i’r Tŷ Fictoraidd. Cewch wybod ble i adael y gadair wthio wrth gyrraedd.
  • Os bydd ymweliad yn cael ei ganslo oherwydd tywydd garw neu oherwydd amgylchiadau annisgwyl eraill, dim ond os nad oes amser neu ddyddiad arall ar gael y rhoddir ad-daliadau llawn. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, ac er mwyn osgoi siom, byddem yn eich cynghori i gysylltu â’r Castell ar 029 2087 8100 cyn teithio.
  • Ni ellir ad-dalu na chyfnewid tocynnau. Os bydd unrhyw ddigwyddiad yn cael ei ganslo, yna bydd costau tocynnau yn cael eu had-dalu, fodd bynnag, bydd yr asiant yn cadw unrhyw ffioedd archebu. Gallwch ystyried yr opsiwn yswiriant tocynnau wrth wneud eich archeb.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.