Beth wyt ti'n edrych am?
Ymweliadau Siôn Corn gyda'r nos yn y Castell
Dyddiad(au)
04 Rhag 2025 - 11 Rhag 2025
Amseroedd
16:00 - 19:00
MWY O WYBODAETH...
Am ddwy noson yn unig, bydd Siôn Corn yn dychwelyd i’w fan o dan y Goeden Nadolig hardd yn yr Ystafell Lunio yng Nghastell Caerdydd. Yma bydd yn cwrdd â grwpiau o 10 o blant ar y tro i ddarganfod beth maen nhw’n ei roi ar eu rhestr Nadolig a gadael i bob plentyn ddewis rhywbeth i’w gymryd adref o ddetholiad o anrhegion.
Bydd cyfle gan bob plentyn i siarad â Siôn Corn yn unigol a dewis anrheg o ddetholiad o deganau o safon.
Bydd uchafswm o 10 o blant ac 20 o oedolion ym mhob grŵp. Bydd angen tocyn dilys ar bawb sy’n mynychu, gan gynnwys yr holl oedolion sy’n dod gyda nhw.
Prisiau: Plant £25 / Oedolion £20
- Taith fer o amgylch rhai o’r ystafelloedd wedi’u haddurno’n hyfryd y tu mewn i’r Tŷ Fictoraidd.
- Helfa drysor â thema Nadoligaidd o amgylch yr ystafelloedd.
- Straeon am y Nadolig a fu yn y Neuadd Wledda.
- Cyfarfod grŵp gyda Siôn Corn, gyda phlant yn cymryd eu tro i siarad â Siôn Corn a dewis anrheg.
- Gostyngiad o 10%* yn Siop Anrhegion Nadolig y Castell, yn ddilys tan Noswyl Nadolig (**mae cyfyngiadau’n berthnasol – nid yw’r gostyngiad yn ddilys ar brynu gemwaith ac alcohol)
| DYDDIADAU | |
| 04 Rhag | 11 Rhag |
| AMSEROEDD | |||
| 16:00 | 16:30 | 17:00 | 17:30 |
| 18:00 | 18:30 | 19:00 | |
- Mae angen tocynnau ar gyfer pob plentyn a phob oedolyn sy’n mynychu. Nid oes angen tocyn ar fabanod dan 6 mis oed ond ni fyddant yn gallu ymweld â Siôn Corn na derbyn anrheg heb un.
- Ymweliad grŵp gyda’r nos yw hwn ac ni ddylid ei gymysgu â’n teithiau preifat gyda’r nos blaenorol.
- Ni fydd lluniaeth wedi’i chynnwys ym mhris y tocyn.
- Mae’n ddrwg gennym, gan mai digwyddiad arbennig yw hwn, na fydd Allweddi’r Castell/gostyngiadau yn berthnasol.
- Byddwn yn cynnig dewis o anrhegion na fyddant yn cael eu lapio.
- Mae’n ddrwg gennym ond nid ydym yn gallu gwarantu Siôn Corn sy’n siarad Cymraeg.
- Sylwch fod y Tŷ yn adeilad hanesyddol ac mae cael mynediad yn cynnwys grisiau cerrig a drysau cul. Mae’n ddrwg gennym nad yw’r ystafelloedd yn hygyrch i’r rhai sydd ag anawsterau symudedd ac nid oes mynediad i gadeiriau olwyn.
- Dim ond am yr amser a nodir ar eich archeb y mae eich tocyn yn ddilys. Oherwydd natur brysur y digwyddiad, ni fyddwn yn gallu eich darparu os byddwch yn cyrraedd yn hwyr neu ar gyfer y daith anghywir. Ceisiwch gyrraedd o leiaf 10 munud cyn eich taith. Mae yna lawer o ddigwyddiadau ac atyniadau yn y Castell drwy gydol cyfnod y Nadolig, ac efallai yr hoffech chi gyrraedd yn gynnar i fanteisio arnyn nhw.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n caniatáu digon o amser i gyrraedd y Castell. Rydym wedi’n lleoli yng nghanol prifddinas brysur. Bydd traffig trwm a galw cynyddol am barcio yn ychwanegu at amseroedd teithio yn ystod mis Rhagfyr.
- Nid oes parcio ar gael ar y safle.
- Ni ellir mynd â chadeiriau gwthio i mewn i’r Tŷ Fictoraidd. Cewch wybod ble i adael y gadair wthio wrth gyrraedd.
- Os bydd ymweliad yn cael ei ganslo oherwydd tywydd garw neu oherwydd amgylchiadau annisgwyl eraill, dim ond os nad oes amser neu ddyddiad arall ar gael y rhoddir ad-daliadau llawn. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, ac er mwyn osgoi siom, byddem yn eich cynghori i gysylltu â’r Castell ar 029 2087 8100 cyn teithio.
- Ni ellir ad-dalu na chyfnewid tocynnau. Os bydd unrhyw ddigwyddiad yn cael ei ganslo, yna bydd costau tocynnau yn cael eu had-dalu, fodd bynnag, bydd yr asiant yn cadw unrhyw ffioedd archebu. Gallwch ystyried yr opsiwn yswiriant tocynnau wrth wneud eich archeb.