Neidio i'r prif gynnwys

ORIAU AGOR A PHRISIAU TOCYNNAU

Helpwch i gynllunio'ch ymweliad â Chastell Caerdydd gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am ein horiau agor a'n hamseroedd mynediad, yn ogystal â phrisiau tocynnau mynediad a theithiau tywys. Uwchraddio i Docyn Blynyddol gyda mynediad diderfyn am flwyddyn gyfan, neu gael gwybod am gynllun anhygoel Allwedd y Castell i drigolion Caerdydd.

AMSEROEDD AGOR

Mae Castell Caerdydd ar agor i ymwelwyr 7 diwrnod yr wythnos drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys gwyliau banc.

Yr unig eithriadau yw Dydd Nadolig (25 Rhagfyr), Gŵyl San Steffan (26 Rhagfyr) a Dydd Calan (1 Ionawr), pan fyddwn ar gau.

Rydym yn argymell eich bod yn caniatáu o leiaf awr a hanner ar gyfer ymweliad arferol, gydag amser ychwanegol ar gyfer deithiau tywys. Fodd bynnag; mae eich tocyn ar gyfer y diwrnod llawn.

Yn aml mae yna ddiwrnodau digwyddiadau arbennig trwy gydol y flwyddyn, ond yn enwedig yn ystod yr haf, lle mae mynediad yn agored i ddeiliaid tocynnau digwyddiad yn unig am y diwrnod cyfan neu ran o’r diwrnod.

Gwiriwch am unrhyw newidiadau i’n horiau agor arferol cyn eich ymweliad.

Amseroedd yr Haf (Maw – Hyd) Llun – Gwe Sad – Sul*
Amser Agor 10:00 09:00
Myendiad Olaf 17:00 17:00
Amser Cau 18:00 18:00
Amseroedd y Gaeaf (Tach – Chwe) Llun – Gwe Sad – Sul*
Amser Agor 10:00 09:00
Myendiad Olaf 16:00 16:00
Amser Cau 17:00 17:00

*ac ar bob dydd yn ystod gwyliau ysgol ac ar wyliau banc.

PRISIAU TOCYNNAU

Archwiliwch ar eich cyflymder eich hun gyda Thocyn y Castell.

Darganfyddwch yr olion Rhufeinig a Chornel y Cerbyd, dringwch y Gorthwr Normanaidd a Lwybr y Bylchfuriau, rhyfeddwch at Randai’r Castell sydd wedi’u haddurno’n gelfydd, profwch y Llochesi Rhyfel ac ymwelwch ag amgueddfa filwrol Firing Line.

Gellir prynu Tocyn y Castell ar-lein ymlaen llaw, neu ar y diwrnod o’n Swyddfa Docynnau.

Sylwch nad oes angen i ddeiliaid Allwedd y Castell a Thocyn Blynyddol archebu tocynnau.

Dilynwch Ein Canllaw Sain AM DDIM.

Dewch â’ch ffôn gyda phâr o glustffonau a gallwch ddilyn ein canllaw sain rhad ac am ddim trwy lawrlwytho ap Castell Caerdydd. Mae fersiwn teulu hefyd wedi’i chynnwys ar gyfer ymwelwyr iau.

Cyfraddau Mynediad Prisiau
Oedolion £15.50
Plant
(5 – 16 Oed, rhaid fod yng nghwmni oedolyn)
£10.50
Henoed / Myfyrwyr / Anabl
(un gofalwr am ddim gyda phob ymwelydd anabl)
£12.50
Tocyn Teulu Oedolion
(2 oedolyn a 2 blentyn)
£42.50
Tocyn Teulu Henoed
(2 henoed a 2 blentyn)
£36.50
Dan 5 Oed AM DDIM

UWCHRADDIO TOCYNNAU - TEITHIAU TYWYS

Archwiliwch hyd yn oed mwy o Gastell Caerdydd.

Gall deiliaid Tocyn y Castell, Allwedd y Castell, neu Docyn Blynyddol a hoffai weld mwy o Gastell Caerdydd, neu ymchwilio’n ddyfnach i’w hanes diddorol ymuno ag un o’n teithiau tywys.

Mae ein Taith y Tŷ rheolaidd trwy Rhandai’r Castell yn rhedeg bob dydd ar yr awr, tra bod Hanesion y Tŵr Du yn adrodd pennod iasoer o hanes y Castell yn ôl i fywyd mewn ffordd sy’n gyfeillgar i deuluoedd.

Mae teithiau o amgylch Tŵr y Cloc eiconig y Castell ar gael ar benwythnosau a gwyliau banc o fis Ebrill i fis Medi.

Ni ellir archebu teithiau tywys ymlaen llaw ar hyn o bryd ond holwch yn y Swyddfa Docynnau am argaeledd a gwybodaeth bellach.

Cyfraddau Mynediad Ffi Ychwanegol
Oedolion £4.50
Plant
(5 – 16 Oed, rhaid fod yng nghwmni oedolyn)
£3.50
Henoed / Myfyrwyr / Anabl
(un gofalwr am ddim gyda phob ymwelydd anabl)
£4.00
Tocyn Teulu Oedolion
(2 oedolyn a 2 blentyn)
£13.50
Tocyn Teulu Henoed
(2 henoed a 2 blentyn)
£12.50

UWCHRADDIO TOCYNNAU - TOCYN BLYNYDDOL

Mynnwch fynediad AM DDIM i Gastell Caerdydd am flwyddyn gyfan.

Mae llawer i’w gymryd yn ystod un ymweliad, felly efallai y bydd angen i chi ddod yn ôl a gwneud yn siŵr nad ydych wedi methu unrhyw beth.

Am dâl bychan ychwanegol gallwch uwchraddio eich Tocyn Castell i Docyn Blynyddol ac ymweld â ni mor aml ag y dymunwch gyda mynediad am ddim am ddeuddeg mis o’r dyddiad cyhoeddi.

Gofynnwch am fwy o wybodaeth yn y swyddfa docynnau.

Cyfraddau Mynediad Ffi Ychwanegol
Oedolion + £7.50
Plant
(5 – 16 Oed, rhaid fod yng nghwmni oedolyn)
+ £5.00
Henoed / Myfyrwyr / Anabl
(un gofalwr am ddim gyda phob ymwelydd anabl)
+ £7.50

UWCHRADDIO TOCYNNAU - ALLWEDD Y CASTELL

Mynnwch fynediad AM DDIM i Gastell Caerdydd am 3 blynedd!

Wyddoch chi fod y Castell wedi ei roi i bobl Caerdydd gan 5ed Ardalydd Bute yn 1947?

I anrhydeddu ysbryd yr anrheg hon, os ydych yn byw neu’n gweithio yn y ddinas, mae gennych hawl i’ch Allwedd eich hun i Gastell Caerdydd, gan roi mynediad am ddim i chi mor aml ag y dymunwch am o leiaf tair blynedd!

Gofynnwch am fwy o wybodaeth yn y swyddfa docynnau.

Cyfraddau Mynediad Ffi Ychwanegol
Oedolion + £7.50
Plant
(5 – 16 Oed, rhaid fod yng nghwmni oedolyn)
AM DDIM
Henoed / Myfyrwyr / Anabl
(un gofalwr am ddim gyda phob ymwelydd anabl)
+ £7.50

Y SGWÂR CYHOEDDUS

Man croesawgar yn lleoliad hyfryd lawnt allanol y Castell sy’n agored i bawb ei fwynhau am ddim. Prynnwch gofrodd yn y Siop Rhoddion neu mynnwch luniaeth o Gaffi'r Castell. Gall twristiaid hefyd galw ym Man Gwybodaeth Ymwelwyr Caerdydd.

GWYBODAETH I YMWELWYR

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach am eich ymweliad â Chastell Caerdydd, yna efallai y byddwch yn dod o hyd i'r ateb ar ein tudalen Gwybodaeth i Ymwelwyr sy'n ymdrin â hygyrchedd, cyngor teithio, a chwestiynau cyffredin. Byddwch hefyd yn dod o hyd i ddolen i Croeso Caerdydd, sefydliad twristiaeth swyddogol y ddinas.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.