Beth wyt ti'n edrych am?
FFYRDD FYDD YN CAU A CHYNGOR TEITHIO AR GYFER DYDD GWENER, 16 MEDI
14 Medi 2022
Gydag ymweliad Ei Fawrhydi y Brenin Charles III a’r Frenhines Gydweddog â Chaerdydd Ddydd Gwener, 16 Medi, bydd nifer o ffyrdd ar gau er mwyn hwyluso’r digwyddiad a chadw’r cyhoedd yn ddiogel.
Cynghorir pawb sy’n teithio i Gaerdydd ar gyfer yr ymweliad brenhinol i gynllunio eu taith o flaen llaw a gadael digon o amser i fynd i mewn i’r ddinas a lle bo’n bosib, i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Anogir trigolion lleol yn gryf i adael eu car gartref a naill ai fynd ar y bws neu gerdded a beicio os gallant.
Gall hygyrchedd a chyfleoedd gwylio a pharcio fod yn gyfyngedig, yn enwedig i ddigwyddiad Llandaflle mae sawl ffordd eisoes wedi eu cau a chyfyngiadau parcio wedi’u sefydlu, ac mae’r lle sydd o amgylch yr Eglwys Gadeiriol ei hun hefyd yn gyfyngedig. Bydd cyfleoedd gwell i weld y Parti Brenhinol wrth y castell a’r Senedd.
Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda Llywodraeth Cymru a Heddlu De Cymru i reoli unrhyw dagfeydd, gyda nifer sylweddol o stiwardiaid wedi’u drafftio ynghyd â swyddogion heddlu er mwyn helpu i gadw’r cyhoedd yn ddiogel.
Ein cyngor ni yw cynllunio ymlaen llaw, gwisgo’n briodol i’r tywydd, dod â digon o ddŵr, paratoi ar gyfer cyfnodau hir o sefyllian, dylech ddisgwyl torfeydd a chadw golwg ar y rhai o’ch cwmpas ac sydd gyda chi.
Cau ffyrdd
Canol y Ddinas
O 6am tan 6pm Ddydd Gwener 16 Medi, bydd y ffyrdd canlynol ar gau:
- Heol y Gogledd rhwng Boulevard de Nantes a Ffordd y Brenin
- Ffordd y Brenin o Heol y Dug i Heol y Gogledd
- Heol y Dug ar ei hyd
- Stryd y Castell ar ei hyd
- Stryd Wood rhwng Heol y Porth a Heol Eglwys Fair
- Heol Eglwys Fair o Heol y Tollty i’r Stryd Fawr
- Stryd Fawr ar ei hyd
- Stryd Wood
- Heol y Porth
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen rhwng Heol y Porth a Heol y Gadeirlan ond bydd mynediad yn cael ei gynnal.
Fel trefn wrth gefn, os bydd torfeydd mawr ar y diwrnod, yna fe allai’r ffyrdd canlynol gau:
- Rhodfa Lloyd George ar ei hyd
- Stryd Herbert rhwng Rhodfa Lloyd George a Sgwâr Callaghan
- Sgwâr Callaghan o Heol Dumballs i Stryd Bute
- Heol Eglwys Fair ar ei hyd tan Sgwâr Callaghan.
Gerddi Sophia
O 6am tan 6pm Ddydd Gwener 16 Medi, bydd y ffyrdd canlynol ar gau:
- Clos Sophia – rhaid i ddefnyddwyr y gwasanaeth ddefnyddio’r maes parcio talu ac arddangos y gellir mynd iddo o Heol Ddwyreiniol y Bont-faen
- Limetree Avenue – bydd yr allanfa i’r gwersyll ar hyd Dogo Street
Llandaf (Eglwys Gadeiriol)
Mae’r ffyrdd canlynol eisoes wedi gau ac ni fyddant yn ailagor i gerbydau modur tan Ddydd Sadwrn 17 Medi:
- Stryd Fawr
- Heol Fair
- Lawnt y Gadeirlan
Ar hyn o bryd, mae mynediad yn cael ei reoli i’r ardal ar gyfer cerddwyr a beicwyr, gyda pharcio amgen ar gael i fodurwyr yn y maes parcio talu ac arddangos ar Heol y Tyllgoed. Mae staff ar y safle’n cynorthwyo’r cyhoedd a busnesau gyda’r trefniadau cau ffyrdd
O 8pm Ddydd Iau 15 Medi tan 4pm Ddydd Gwener 16 Medi, bydd y ffyrdd canlynol ar gau yn llwyr:
- Stryd Fawr
- Heol Fair
- Lawnt y Gadeirlan
- Heol-y-Pavin (mynediad ar gael)
- Heol y Bont (mynediad ar gael)
Os bydd torfeydd mawr yn mynychu, bydd y ffyrdd canlynol hefyd yn cau:
- Heol Caerdydd o’r gyffordd â Heol Llantrisant hyd at y gyffordd â Rhodfa’r Gorllewin
- Heol y Tyllgoed i’r gyffordd â Heol Pwll Melyn (mynediad ar gael)
Bae Caerdydd
Mae’r ffyrdd canlynol eisoes ar gau ac ni fyddant yn ailagor i gerbydau modur tan brynhawn Gwener:
- Rhodfa’r Harbwr
- Cei Britannia
Trenau
Ddydd Gwener 16 Medi, mae disgwyl i wasanaethau trên i Gaerdydd fod yn brysur. Y gorsafoedd trên agosaf i Eglwys Gadeiriol Llandaf yw Parc Waun-gron a Y Tyllgoed. Fodd bynnag, argymhellir bod teithwyr sy’n dymuno teithio i Landaf o Caerdydd Canolog yn defnyddio gwasanaeth bws lleol felly ewch i traveline.cymru ar gyfer amserlenni bysiau lleol.
Gwybodaeth lawn ymahttps://trc.cymru/gwybodaeth-i-deithwyr
Parcio
Nid oes cyfleuster parcio digwyddiadau ar gyfer y digwyddiad hwn, ond mae’r holl barcio ar y stryd ar gael yng nghanol y ddinas, Bae Caerdydd ac yn y Ganolfan Ddinesig, yn ogystal â meysydd parcio preifat, gan gynnwys:
Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)
Bws
Bysiau lleol:
Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau
Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.
Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)
Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i:https://www.cardiffbus.com/
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i:https://www.natgroup.co.uk/
National Express:
Rhwng Dydd Mercher 14 Medi a bore Gwener 16 Medi, bydd y man gollwng ac esgyn ar gyfer Gwasanaethau National Express ar Heol y Gadeirlan ac nid yng Ngerddi Sophia.
Tacsis
Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) ar gau o 6am tan 6pm Ddydd Gwener 16 Medi