Neidio i'r prif gynnwys

Cau ffyrdd ar gyfer gorymdaith Pride Cymru ar Fehefin 17

Maw, 13 Gorff 2023


 

Mae Pride Cymru yn ôl gyda gŵyl ddeuddydd wedi’i threfnu yng nghanol dinas Caerdydd ar Fehefin 17 a Mehefin 18.

Bydd yr orymdaith ar 17 Mehefin a bydd ffyrdd ar gau i sicrhau y gellir cynnal y digwyddiad yn ddiogel.

Bydd yr orymdaith yn dechrau ar Stryd y Castell am 11am gan symud ymlaen i’r Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, yn ôl i’r Ais, ymlaen i Heol Eglwys Ioan, ar hyd Heol y Frenhines, i fyny Plas y Parc, yn ôl ar hyd Heol y Brodyr Llwydion, ymlaen i Ffordd y Brenin gan orffen ar Stryd y Castell.

I hwyluso’r digwyddiad, bydd y ffyrdd canlynol ar gau yn ystod yr amseroedd canlynol ar 17 Mehefin.

Bydd Stryd y Castell o’r gyffordd â Heol y Porth, Heol y Dug a Ffordd y Brenin i’r gyffordd â Heol y Gogledd ar gau rhwng 6am a 10.30pm (caniateir mynediad i fysiau sy’n gadael Heol y Brodyr Llwydion)

8am tan 2.30pm bydd y ffyrdd canlynol ar gau: Y Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Wood, Sgwâr Canolog, Heol Ddwyreiniol y Bont-faen i’w chyffordd  â Heol y Gadeirlan, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Stryd y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott, Heol Eglwys Fair, Lôn y Felin, Yr Ais, Heol Eglwys Ioan, Heol y Frenhines, Plas y Parc, Heol y Brodyr Llwydion (o’i chyffordd â Boulevard De Nantes drwodd i Ffordd y Brenin).