Neidio i'r prif gynnwys

Manic Street Preachers a Suede

Dyddiad(au)

06 Gorff 2024

Lleoliad

Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd CF10 3RB

Map Google

MWY O WYBODAETH...

MANIC STREET PREACHERS a SUEDE

Yn fyw yng Nghastell Caerdydd ar Sad, 06 Gorff 2024

Cyflwynir gan SJM CONCERTS, CUFFE & TAYLOR, a DEPOT LIVE drwy drefniant gydag X-RAY a 13-ARTISTS

Gyda gwesteion arbennig:
SUEDE

Mae’r drysau’n agor am 17:00
Gyda’r mynediad olaf am 20:30

Mae’r Manic Street Preachers, neu’r Manics, yn fand roc o Gymru a ffurfiwyd yn y Coed Duon, Caerffili, yn 1986. Mae’r band yn cynnwys y cefndryd James Dean Bradfield (prif lais, gitâr arweiniol) a Sean Moore (drymiau, offerynnau taro, seinweddau), ynghyd â Nicky Wire (gitâr bas, geiriau). Maen nhw’n rhan allweddol o fudiad diwylliannol Cŵl Cymru’r 1990au.

Yn dilyn rhyddhau eu sengl gyntaf “Suicide Alley”, ymunodd Richey Edwards â’r Manic Street Preachers fel cyd-awdur geiriau a gitarydd rhythm, a daeth y band yn bedwarawd. Roedd albymau cynnar y band mewn arddull pync, gan ehangu yn y pen draw i sain roc amgen, tra’n cadw rhagolwg gwleidyddol chwith. Drwy eu cyfuniad cynnar o ddelweddau androgynaidd a geiriau am “ddiwylliant, dieithrio, diflastod ac anobaith”, llwyddon nhw i sicrhau dilyniant ffyddlon.

A nawr gall cynulleidfaoedd yng Nghaerdydd edrych ymlaen at noson arall o’r caneuon gorau.

GWYBODAETH CWSMERIAID


Nid yw Castell Caerdydd yn gyfrifol am reoli’r digwyddiad hwn, nid ydym yn delio ag unrhyw werthiant tocynnau ac ni allwn roi cyngor na diweddaru unrhyw archebion.

Os ydych eisoes wedi prynu tocynnau, cysylltwch yn uniongyrchol â gwasanaethau cwsmeriaid eich darparwr tocynnau, gan ddyfynnu eich cyfeirnod archebu.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â:

DEPOT Live
Tel: 029 2022 0491
bookings@depotcardiff.com

Gwerthiant Tocynnau?
  • Oni nodir yn wahanol, nid yw Castell Caerdydd yn gweithredu swyddfa docynnau ar y safle ar gyfer unrhyw gyngherddau sy’n digwydd ar y tir. Rydym yn darparu dolen gymeradwy i brynu tocynnau ar-lein, fel y cyfarwyddir gan hyrwyddwr y sioe; ond, efallai y bydd tocynnau ar gael o fannau eraill hefyd.
Seddi neu Sefyll?
  • Mae’r rhan fwyaf o gyngherddau sy’n cael eu cynnal yng Nghastell Caerdydd yn rhai â lle i sefyll yn unig, ni ddarperir seddi penodol. Sylwch fod tocynnau sefyll hefyd yn cael eu disgrifio’n aml fel Mynediad Cyffredinol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio manylion eich tocynnau cyn cwblhau unrhyw bryniant.
Beth yw Cylch Aur?
  • Efallai y bydd rhai sioeau yn cynnig ardal Cylch Aur gyda thocynnau drutach. Fel arfer mae Cylch Aur yn ardal sydd yn syth o flaen y prif lwyfan ac ar wahân i’r Mynediad Cyffredinol. Mewn cyngerdd sefyll, mae’r Cylch Aur hefyd yn debygol o fod yn sefyll.
Cadeiriau Plygu?
  • Fel arfer, gwaherddir dod ag unrhyw fath o gadeiriau plygu neu wersylla i mewn i arena sefyll. Caniateir blancedi picnic yn aml; ond, mae lle yn debygol o fod yn gyfyngedig iawn ger y llwyfan gan y bydd y rhan fwyaf o bobl yn sefyll.
Tocynnau Hygyrch?
  • Bydd y rhan fwyaf o sioeau’n darparu ardal benodol ar gyfer tocynnau hygyrch, mae hyn yn aml ar lwyfan gwylio uwch, neu debyg, a bydd fel arfer yn caniatáu un cydymaith yn rhad ac am ddim. Sylwch fod lleoedd hygyrch yn gyfyngedig ac yn debygol o werthu allan yn gyflym. Am fwy o wybodaeth, defnyddiwch y manylion cyswllt uchod.
Cyfyngiadau Oedran?
  • Yn aml mae’n ofynnol i blant sy’n mynychu cyngherddau fod yng nghwmni oedolyn, ac efallai na fydd rhai sioeau yn caniatáu plant o gwbl. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio manylion eich tocynnau cyn cwblhau unrhyw bryniant.
Lleoliad Awyr Agored?
  • Mae tir Castell Caerdydd yn lleoliad awyr agored a bydd yn ddibynnol ar y tywydd, fel arfer nid yw sioeau’n cael eu cynnal mewn tywydd garw. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r rhagolygon a gwisgo’n briodol, nodwch fod ambarelau fel arfer yn cael eu gwahardd mewn arenâu sefyll.
Bwyd a Diod?
  • Yn y rhan fwyaf o sioeau bydd amrywiaeth o fwyd a diod ar gael i’w prynu gan werthwyr ar y safle. Yn gyffredinol, mae’n anghyfreithlon dod â’ch bwyd, eich diod a’ch alcohol eich hun i mewn. Gwiriwch unrhyw wybodaeth a ddarperir gyda’ch tocynnau, neu defnyddiwch y manylion cyswllt a ddarperir uchod.
Mynedfeydd?
  • Gall mynediad i dir y Castell fod naill ai trwy Borth y De (prif fynedfa ar Stryd y Castell), neu drwy Borth y Gogledd (o Barc Bute, oddi ar Heol y Gogledd). I helpu i reoli’r dorf, efallai y bydd rhai sioeau yn nodi mynedfa ar eich tocynnau, gwiriwch eich manylion cyn cyrraedd.
Parcio?

Nid oes parcio pwrpasol i gwsmeriaid ar gael yng Nghastell Caerdydd, fodd bynnag, mae nifer o gyfleusterau parcio cyhoeddus gerllaw. Mae parcio y gellir ei archebu ymlaen llaw ar gael yn NCP Caerdydd Heol y Porth a NCP Caerdydd Heol y Brodyr Llwydion.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.