Neidio i'r prif gynnwys

TAITH HUNAN DYWYSEDIG

Dilynwch am ddim trwy lawrlwytho’r app!

Mae ein taith glywedol am ddim yn ffordd wych o fwynhau taith gerdded o amgylch Castell Caerdydd, yn gyfan gwbl ar eich cyflymder eich hun. Dilynwch y pwyntiau gwybodaeth wedi’u rhifo a gwrandewch ar hanes hynod ddiddorol y Castell wedi’i adrodd gan ddarllenydd newyddion y BBC, Huw Edwards.

Dewch â’ch ffôn symudol, ynghyd â phâr o ffonau clust, a gallwch ddilyn ein taith glywedol AM DDIM trwy lawrlwytho’r ap, sydd ar gael nawr ar Google Play a’r App Store (dolenni isod). Mae fersiwn plant o’r taith glywedol hefyd ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Mae’r canllaw ar gael mewn 10 iaith ac, os na allwch ddefnyddio eich ffôn symudol am unrhyw reswm, mae setiau llaw ar gael i’w llogi (yn amodol ar argaeledd) o swyddfa docynnau’r Castell am ddim ond £2.

Mae'r daith glywedol ar gael mewn 10 iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
  • Ffrangeg
  • Almaeneg
  • Sbaeneg
  • Eidaleg
  • Siapaneg
  • Rwsieg
  • Tsieineeg Mandarin
  • Portiwgaleg

LAWRLWYTHWCH Y TAITH IAP

Mae’r ap hefyd yn cynnwys fersiwn o’r taith mewn iaith arwyddion (IAP), y gellir ei lawrlwytho am ddim o’r dolenni isod.

Ewch i’n tudalen bwrpasol i gael mwy o wybodaeth hygyrchedd.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.