Neidio i'r prif gynnwys

Mae’r Trébuchet yng Nghastell Caerdydd, sef un o’r peiriannau milwrol mwyaf angheuol erioed, yn replica manwl iawn o beiriant gwarchae o’r drydedd ganrif ar ddeg, a ddatblygwyd i ymosod ar furiau cestyll.

Roedd system gwrthbwyso soffistigedig yn cael ei defnyddio, gyda meini mawr a oedd yn pwyso dros 150 cilogram yn cael eu gosod ar sling y catapwlt ac yn cael eu taflu â’r fath rym nes y gallent dorri drwy’r amddiffynfeydd cryfaf.

Saif y Trébuchet mewn lleoliad allweddol ar Lawnt y Castell, ac fe’i hadeiladwyd gan seiri a gwneuthurwyr setiau proffesiynol a fu’n gweithio ar y ffilm Hollywood Ironclad (Runnymeade Productions). Mae Paul Giamatti, James Purefoy, Brian Cox, Mackenzie Crook, James Flemyng, Derek Jacobi a Kate Mara yn ymddangos yn y ffilm, sy’n cofnodi gwarchae fawr Castell Rochester ym 1215, pan amddiffynnodd grŵp o Farwniaid gwrthryfelgar un o geyrydd pwysicaf a mwyaf strategol Prydain yn erbyn y Brenin John, a oedd yn benderfynol o adennill ei rym ar ôl llofnodi’r Magna Carta.

Gyda chymorth myfyrwyr Mathemateg a Ffiseg Safon Uwch o Ysgol Uwchradd Caerdydd, mae’r cyflymder delfrydol ar gyfer tanio’r Trébuchet wedi’i gyfrifo; ac mae wyth aelod o staff Castell Caerdydd, ‘y Tîm Trébuchet’, wedi cael eu hyfforddi i lwytho a thanio’r darn hwn o dechnoleg o’r canoloesoedd.

Mae’r Trébuchet yn 10 metr o uchder (tua 35 troedfedd) ac mae’n pwyso bron i chwe thunnell.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.