Beth wyt ti'n edrych am?
Y NADOLIG YNG NGHASTELL CAERDYDD
Mae Nadolig yn y Castell bob amser yn gyfnod cyffrous ac yn sicr ni fydd 2022 yn eithriad. Gyda Llawr Sglefrio Iâ a Thaith Gerdded iâ Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn meddiannu’r Sgwâr Cyhoeddus a’r Ŵyl Nadolig newydd gyffrous mewn Spiegeltent, mae digon i edrych ymlaen ato!
Bydd Castell Caerdydd ar agor i ymwelwyr sy’n talu drwy gydol cyfnod y Nadolig, yn ystod ein horiau agor dros y gaeaf. Yr unig eithriadau fydd ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan, pan fydd y Castell ar gau.
Rhwng dydd Mawrth 15 Tachwedd a dydd Sul 8 Ionawr bydd y Sgwâr Cyhoeddus ar agor bob dydd, gydag oriau agor estynedig i gyd-fynd ag amseroedd sglefrio Gŵyl y Gaeaf Caerdydd. Bydd Gŵyl y Gaeaf Caerdydd a’r Sgwâr Cyhoeddus ar gau ar Ddydd Nadolig a Gŵyl San Steffan.

TEITHIAU NADOLIG CASTELL CAERDYDD
O Sad, 26 Tachwedd – Sul, 18 Rhagfyr
Y Nadolig hwn, uwchraddiwch eich Tocyn Castell neu Allwedd y Castell ac ymunwch â thaith arbennig, dymhorol o amgylch y tŷ, ynghyd â straeon Nadoligaidd Oes Fictoria o gyfnod y teulu Bute. Mae’n amser gwych o’r flwyddyn i ymweld â Chastell Caerdydd oherwydd, yn ogystal â’u haddurn Fictoraidd moethus enwog, bydd rhandai’r Castell hefyd yn cael eu haddurno yn eu holl addurniadau Nadoligaidd, traddodiadol ac yn edrych hyd yn oed yn fwy ysblennydd nag arfer. Ar ddiwedd eich taith mwynhewch y dathliadau o’n man eistedd dan do gyda gwydraid o win cynnes am ddim i oedolion.

GWYL Y NADOLIG
O Gwe, 25 Tachwedd – Sul, 1 Ionawr
Eleni byddwch hefyd yn dod o hyd i atyniad adloniant newydd ysblennydd y tu mewn i dir Castell Caerdydd. Bydd grîn y ward fewnol yn gartref i Spiegeltent 570-sedd, lleoliad unigryw gyda thair sioe anhygoel a fydd yn cynnig rhywbeth i bawb. Bydd Santa’s Wish, Castellana a The Nutcracker yn cael eu perfformio yn y rownd, gan addo ym mhob eiliad i gludo ymwelwyr i fyd hiraethus a hudolus.
Y SGWÂR CYHOEDDUS
Bydd mynediad i diroedd Sgwâr Cyhoeddus y Castell yn aros yn rhad ac am ddim dros yr ŵyl felly mae croeso i bawb ddod i amsugno'r awyrgylch. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n galw heibio i siop rhoddion y Castell ar gyfer llenwyr hosan y byddai gweithdy Siôn Corn yn falch ohonyn nhw, yna gorffwyswch ac ail-lenwi yng nghegin a bar Terras y Gorthwr.