Neidio i'r prif gynnwys

Mae Castell Caerdydd ar Gau

Dydd Gwener, 9 Medi 2022


Mae Castell Caerdydd yn lleoliad allweddol yn dilyn marwolaeth y frenhines ac mae’n ofynnol iddo aros ar gau ar gyfer busnes arferol tra bod y trefniadau protocol swyddogol yn cael eu rhoi ar waith.

Mae’n ddrwg gennym y bydd unrhyw archebion sydd ar ddod ar gyfer Castell Caerdydd nawr yn cael eu canslo. Rhoddir ad-daliad llawn i’r rhai yr effeithir arnynt, a dylid ei dderbyn o fewn 3-5 diwrnod gwaith.

Ymddiheurwn yn ddiffuant am unrhyw siom a gobeithio y byddwch yn gallu ymweld yn y dyfodol.

Bydd Castell Caerdydd yn ailagor ar 20 Medi.

 


I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch cardiffcastle@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 029 2087 8100 (yn ystod oriau swyddfa).