Neidio i'r prif gynnwys

Cynllunio Ymlaen Llaw: Cyngor Teithio ar gyfer Sad 25 Chwefror 2023

Sad, 25 Chwe 2023


Bydd Cymru yn herio Lloegr ddydd Sadwrn 25 Chwefror yn Stadiwm Principality.

Gyda’r gic gyntaf am 16:45 – bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 12:45 tan 20:45 i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn i’r stadiwm a’i gadael yn ddiogel.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn – cynlluniwch ymlaen llaw – ac osgoi’r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio’r cyfleusterau parcio a theithio yn Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.

Bydd y gatiau’n agor am 14:15, cynghorir y rhai sy’n mynychu’r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar.  Rhowch sylw i’r eitemau gwaharddedig a restrir yn principalitystadium.cymru, yn arbennig y polisi bagiau (ni chaniateir bagiau mawr) cyn teithio i’r ddinas.

Cau Ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o drefn cau ffyrdd llawn canol y ddinas am 12.45am tan 8.45pm

  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhamon Embankment).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n gyfan gwbl: Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa’r Orsaf a Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Bydd hyn er mwyn sicrhau bod mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.
  • Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i’r gêm orffen ac am hyd at awr wedi’r chwiban olaf er diogelwch i deithwyr trên gyrraedd a gadael yr orsaf drenau.

Ychwanegiadau:

Canolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat.

Ymhlith y ffyrdd bydd hyn yn effeithio arnynt mae Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.


I gael cyngor teithio llawn, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, darllenwch yr erthygl Cyngor Teithio llawn yn newyddioncaerdydd.co.uk