What are you looking for?
TAITH HUNAN DYWYSEDIG
Mae ein taith glywedol am ddim yn ffordd wych o fwynhau taith gerdded o amgylch Castell Caerdydd, yn gyfan gwbl ar eich cyflymder eich hun. Dilynwch y pwyntiau gwybodaeth wedi’u rhifo a gwrandewch ar hanes hynod ddiddorol y Castell wedi’i adrodd gan ddarllenydd newyddion y BBC, Huw Edwards.
- Saesneg
- Cymraeg
- Ffrangeg
- Almaeneg
- Sbaeneg
- Eidaleg
- Siapaneg
- Rwsieg
- Tsieineeg Mandarin
- Portiwgaleg
Mae fersiwn o’r daith glywedol yn arbennig i blant, hefyd ar gael yn Saesneg a Chymraeg. Mae’r teithiau clywedol o’r safle yn cynnwys taith iaith arwyddion (WSL) a thaith i ymwelwyr â nam ar eu golwg (yn Saesneg a Chymraeg). Mae canllawiau sain sgript print mawr ar gael hefyd.
DIWEDDARIAD COVID-19
Er mwyn helpu i gynnal iechyd a diogelwch, ni fyddwn yn gallu dosbarthu teithiau clywedol llaw nes y rhoddir rhybudd pellach.
Fodd bynnag, gallwch barhau i ddilyn ein daith glywedol trwy lawrlwytho ap Taith Swyddogol Castell Caerdydd, sydd ar gael am ddim ar Google Play a’r App Store.