Neidio i'r prif gynnwys

Mae’r ystafell hon yn Nhŵr y Gwesteion, a gynlluniwyd gan William Burges ac a adeiladwyd o 1874. Cwblhawyd y gwaith o addurno’r Feithrinfa yn 1879.

Roedd gan yr Arglwydd a’r Arglwyddes Bute bedwar o blant, Margaret, John, Ninian a Colum, a defnyddiwyd yr ystafell hon fel meithrinfa ddydd ac ystafell ddosbarth.

Dim ond trwy ymuno â thaith dywys y gellir cael mynediad i’r Feithrinfa.

Chwarae Chwarae

Cymerwch olwg rithwir o amgylch Y Feithrinfa yng Nghastell Caerdydd.

Roedd gan y plant nyrs, athrawes gartref a dwy forwyn feithrin i edrych ar eu holau nhw. Roedd y morynion o Gymru ac o Ffrainc a dysgon nhw’r plant i siarad Cymraeg a Ffrangeg.

Mae’r addurniad yn addas ar gyfer meithrinfa ac mae teils y wal yn dangos cyfreslun gorymdeithiol sy’n darlunio arwyr ac arwresau o lenyddiaeth plant. Peintiwyd y teils gan yr arlunydd Horatio Lonsdale, a fu’n gweithio i’r Arglwydd Bute am flynyddoedd lawer.

Mae’r simnai wedi’i gwneud o garreg wedi’i phaentio ac fe’i cerfiwyd gan y cerflunydd o Lundain Thomas Nicholls, a oedd yn un o hoff grefftwyr William Burges. Mae’n cynrychioli’r ffigur ‘Enwogrwydd’. Oddi tanodd, mae gan herodr Enwogrwydd ddau utgorn – un aur ac un du, yn cynrychioli ‘cryn enwogrwydd’ neu ‘ddrwg-enwogrwydd’.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.