Beth wyt ti'n edrych am?
Y Neuadd Wledda yw’r ystafell fwyaf yn y castell ac mae yn rhan hynaf yr adeilad. Er bod y waliau go iawn yn dyddio o’r bymthegfed ganrif, mae holl addurniadau’r arwyneb, y nenfwd a’r lloriau yn Fictoraidd.
Mae gan yr ystafell thema o hanes canoloesol ac mae’r simnai yn dangos Robert, Iarll Caerloyw, mab anghyfreithlon i’r Brenin Harri I. Roedd Robert yn Arglwydd ar Gastell Caerdydd yn y ddeuddegfed ganrif.
Mae mynediad i’r Neuadd Wledda wedi’i gynnwys gyda’ch Tocyn y Castell, neu gallwch ddarganfod mwy trwy ymuno â thaith dywys.
Creodd William Burges yr ystafell o saith ystafell wely ym 1873. Roedd yr Arglwydd Bute am weld neuadd fawr yn arddull yr oesoedd canol yn ganolbwynt i’w gastell. Defnyddiwyd yr ystafell pan oedd y tŷ yn llawn gwesteion.
Peintiwyd addurniad y wal gan Lonsdale yn 1875 ac mae’n darlunio straeon o’r ‘Anarchiaeth’; rhyfel cartref o’r ddeuddegfed ganrif, pan ymladdodd merch y Brenin, Matilda, ei chefnder Stephen am orsedd ei thad.
Mae sgrîn fawr wedi’i cherfio o goed cnau Ffrengig yn dominyddu pen deheuol y neuadd. Mae hon mewn arddull ganoloesol, ac fe’i cynlluniwyd yn 1887. Fe’i cerfiwyd gan grefftwyr gweithdai’r Arglwydd Bute ei hun. Uwchben un adran mae oriel y clerwyr, lle bu cerddorion yn chwarae yn ystod ciniawau’r Arglwydd Bute.