Neidio i'r prif gynnwys

Mae’r tu fewn rhyfeddol i’r ystafell hon yn un o’r olaf i William Burges ei gynllunio ac mae’n dyddio o 1881, y flwyddyn y bu farw.

Mae’r nenfwd mewn arddull a elwir yn ‘Muquarnas’.  Fe’i gwnaed o bren sydd wedi’i orchuddio â deilen aur 22 Carat ac wedi’i addurno.

Mae mynediad i’r Ystafell Arabaidd wedi’i gynnwys gyda’ch Tocyn y Castell, neu gallwch ddarganfod mwy trwy ymuno â thaith dywys.

Mae’r ffenestri lliw wedi’u hysbrydoli gan enghreifftiau o’r Aifft ac o flaen pob un mae pêl risial. Gosodwyd y rhain fel y byddai golau’r haul yn eu taro ac yn cael ei daflu at y nenfwd.

Mae’r waliau a’r llawr wedi’u gwneud o farmor Eidalaidd ac mae enw William Burges wedi’i gerfio ar y simnai.  Roedd yr Arglwydd a’r Arglwyddes Bute yn hoff iawn o’u pensaer ac mae’r simnai hon yn gweithredu fel cofeb iddo.

Mae’r cypyrddau ar y wal wedi’u gwneud o frithwaith pren hardd a’u bwriad oedd i gadw casgliad yr Arglwyddes Bute o gerfluniau o Dduwiau a Duwiesau.

Mae’r caeadau ffenestri mewn arddull ‘mishrabaya’ sy’n caniatáu i rywun edrych allan, ond heb ei weld o’r tu allan.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.