Neidio i'r prif gynnwys

Defnyddiwyd yr ystafell hon fel ystafell fwyta ar gyfer aelodau o’r teulu Bute pan nad oedd llawer o westeion neu ddim o gwbl.

Yn wreiddiol, roedd hon yn Ystafell Groeso yn wynebu’r gorllewin ac fe’i defnyddiwyd gan ail Ardalyddes Bute. Mae ei llythyrbleth a’i herodraeth i’w gweld yn yr addurniad.

Mae mynediad i’r Ystafell Fwyta Fechan wedi’i gynnwys gyda’ch Tocyn y Castell, neu gallwch ddarganfod mwy trwy ymuno â thaith dywys.

Chwarae Chwarae

Cymerwch olwg rithwir o amgylch Yr Ystafell Fwyta Fechan yng Nghastell Caerdydd.

Mae thema’r ystafell yn feiblaidd, o Lyfr Genesis. Ar y simnai mae tri angel gydag Abraham a Sarah ar y naill ochr a’r llall iddynt, ac mewn Groeg oddi tanodd mae’r geiriau ‘difyrru angylion yn ddiarwybod’.

Bwriadwyd i’r waliau gael eu paentio’n wreiddiol, ond nid oeddent wedi’u gorffen pan fu farw William Burges yn 1881. Rhoddwyd y gorchudd wal hessian addurnedig yn ei le yn 1890, a gweithredodd fel cefndir i bortreadau teuluol.

Mae’r bwrdd yn wreiddiol i’r ystafell ac mae’n un o ddim ond dau sy’n bodoli, a chawsant eu cynllunio i fod yn ddigon mawr ar gyfer gwinwydd grawnwin yn llawn ffrwyth. Roedd y Buteiaid yn tyfu grawnwin Muscat yn y tai poeth ac roedd ganddynt yn ogystal winllannoedd masnachol yn y De.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.