Neidio i'r prif gynnwys

Mae’r ystafell hon yn Nhŵr Bute, a adeiladwyd yn y ddeunawfed ganrif, ond a estynnwyd gan 3ydd Ardalydd Bute ganrif yn ddiweddarach.

Roedd yr ystafell yn cael ei hadnabod fel ‘ystafell wely’ ond roedd yn cael ei defnyddio go iawn fel ystafell wisgo ac ystafell ymolchi. Roedd yr Arglwydd a’r Arglwyddes Bute yn cysgu yn yr Ystafell Wely Chintz gerllaw.

Dim ond trwy ymuno â thaith dywys y gellir cael mynediad i Ystafell Wely’r Arglwydd Bute.

Chwarae Chwarae

Cymerwch olwg rithwir o amgylch Ystafell Wely'r Arglwydd Bute yng Nghastell Caerdydd.

Mae thema feiblaidd i’r addurno ac mae’n dechrau gyda’r simnai, sy’n cynnwys cerflun efydd euraid o Ioan Fedyddiwr.  Cynlluniwyd y cerflun hwn gan Burges a’i lunio gan y cerflunydd Eidalaidd Fucigna.

Mae pob un o’r saith ffenestr liw yn cynnwys un o saith Eglwys Asia, o Lyfr Datguddiadau Sant Ioan. Mae’r nenfwd yn cynnwys bron i 200 o ddrychau gwydr ar osgo ac mae pob un yn adlewyrchu addurniadau’r ystafell.

Adlewyrchir yr enw ‘Johannes’ (enw’r Arglwydd Bute – John – mewn Groeg) mewn delwedd wir ac fel drych-ddelwedd.

Mae’r ystafell ymolchi wedi’i gwahanu oddi wrth yr ystafell wely gan sgrîn wedi’i cherfio mewn pren coed cnau Ffrengig, sydd ar un ochr â chwe deg math gwahanol o farmor wedi’u gosod ynddi – gydag enw pob un wedi’i endorri mewn aur.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.