Neidio i'r prif gynnwys

Dyma Ystafell Ysmygu’r Gaeaf. Wedi’i lleoli y tu mewn i dŵr cloc y Castell, cwblhawyd yr ystafell yn 1874 fel rhan o’r gwaith o ehangu’r Castell gan Drydydd Ardalydd Bute a’i bensaer William Burges.

Dim ond trwy ymuno â thaith dywys y gellir cael mynediad i Ystafell Ysmygu’r Gaeaf.

Chwarae Chwarae

Cymerwch olwg rithwir o amgylch Ystafell Ysmygu'r Gaeaf yng Nghastell Caerdydd.

Byddai’r ystafell wedi cael ei defnyddio fel gofod adloniant lle byddai dynion yn ymlacio ar ôl cinio i ysmygu, yfed a chwarae gemau parlwr. Mae’r seld ar y wal ddwyreiniol â digon o le i storio alcohol a sigarennau.

Thema’r ystafell yw treigl amser.  Ar y nenfwd mae 12 arwydd y Sidydd yn cynrychioli misoedd y flwyddyn.  Cawsant eu paentio gan yr arlunydd Fred Weekes. Mae’r ffenestri lliw yn darlunio duwiau Llychlynaidd, y defnyddiodd y Sacsoniaid hwy i enwi dyddiau’r wythnos.

Ym mhedair cornel yr ystafell, mae ffigurau bach wedi’u cerfio yn cynrychioli ‘Amseroedd y dydd’. Ar y wal ddwyreiniol mae ‘Codiad yr Haul’, tra bod y gornel gyferbyn yn dangos Hanner Dydd. Cynrychiolir y Gwyll a’r Nos gan Dduwies y Lleuad  ar wal y gogledd.

Mae wal y simnai o garreg wedi’i cherfio, sydd wedi’i phaentio a’i haddurno â deilen aur bur. Mae’n dangos ffigur ‘Cariad’ ar y cwfl, tra oddi tanodd, mae cariadon yn hela, yn sglefrio ac yn eistedd wrth ymyl tân gaeafol.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.