Neidio i'r prif gynnwys

Mae Ystafell Ysmygu’r Haf ar ben Tŵr y Cloc ac mae’n un o’r ystafelloedd mwyaf diddorol yn y castell. Fe’i cwblhawyd yn 1874, bum mlynedd ar ôl dechrau’r tŵr.

Dim ond trwy ymuno â thaith dywys y gellir cael mynediad i Ystafell Ysmygu’r Haf.

Chwarae Chwarae

Cymerwch olwg rithwir o amgylch Ystafell Ysmygu'r Haf yng Nghastell Caerdydd.

Thema’r ystafell yw ‘Y Bydysawd’, ac mae’r addurniad yn arwain i fyny at y gromen sydd wedi’i phaentio, lle mae’r sêr a’r galaethau’n ymddangos uwchben yr haul, a gynrychiolir gan y siandelïer. Byddai canhwyllau a osodwyd yma wedi adlewyrchu yn y gwydr ar y nenfwd i gyfleu awyr y nos.

Mae’r llawr wedi’i wneud o deils llosgliw, neu rai brithaddurnedig, tra bod y teils wal wedi’u paentio’n llachar â chwedlau’r Sidydd. Cafodd y rhain eu paentio gan yr arlunydd Frederick Smallfield yn 1874.

Cafodd wal y simnai ei cherfio gan y cerflunydd Thomas Nicholls, ac mae’n dangos ffigwr adeiniog Cariad, gydag adar cariad ar ei arddyrnau. Mae’r cyfreslun oddi tanodd wedi’i gerfio â chyplau’n caru yn ystod yr haf.

Defnyddiwyd yr ystafell gan yr Arglwydd Bute fel ystafell eistedd achlysurol, lle gallai ddiddanu ei ffrindiau, a mwynhau’r golygfeydd helaeth iawn o’r môr i’r de, a’r mynyddoedd i’r gogledd.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.