Neidio i'r prif gynnwys

GWYBODAETH DIOGELWCH” AR GYFER YMWELIADAU YSGOLION A GRWPIAU ADDYSGOL

Cynhyrchwyd i helpu â pharatoi ymweliadau ac asesiadau risg.

Datganiad Diogelwch
  • Mae Castell Caerdydd yn derbyn yn llawn ei gyfrifoldebau dan Ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch. Mae Polisi Iechyd a Diogelwch sy’n cynnwys asesiadau risg ysgrifenedig a wnaed mewn cysylltiad â’r dyletswyddau cyfreithiol sydd arnom mewn perthynas â phobl nad ydyn nhw’n gyflogeion i ni (h.y. ymwelwyr) sy’n dod ar ein safle ac yn defnyddio ein cyfleusterau.
  • Mae eich iechyd a diogelwch tra byddwch ar ein safle yn hollbwysig i ni. Fel lleoliad a weithredir gan Gyngor Caerdydd, mae gennym ganllawiau llym rydym yn cydymffurfio â nhw ac rydym wedi gweithio’n agos â’n Swyddog Iechyd a Diogelwch Ysgolion er lles ein holl ymwelwyr ac i sicrhau bod eich ymweliad yn brofiad addysgol hwyl, a llawn mwynhad.
  • Rydym yn gweithredu polisi ar gyfer recriwtio staff, hyfforddiant ac asesiad, sy’n sicrhau bod yr holl staff, sydd â chyfrifoldeb dros ddiogelwch a lles ymwelwyr / cyfranogwyr, yn gymwys i gyflawni’r dyletswyddau a ddyrannir iddynt. Caiff holl staff y Castell hyfforddiant Gofal Rhag Tân a Gadael Safle ac Iechyd a Diogelwch.
  • Rydym yn gofyn bod athrawon ac arweinwyr grŵp yn gweithio gyda staff y Castell i oruchwylio plant bob amser.

Rhoddir gwybod i ysgolion y manylion canlynol, a fydd yn cynorthwyo asesiad risg “ymweliad addysgol” eich ysgol chi at ddibenion eich ymweliad. SYLWER NAD YW’R cyfarwyddiadau hyn yn cymryd lle asesiad risg unigol, sy’n ofyniad gan bob AALl.

CEFNDIR

Profiad
  • Mae’r lleoliad yn agored i’r cyhoedd ers 1947 ac mae’n Atyniad i Ymwelwyr â Sicrwydd Safon dan gynllun VAQAS Bwrdd Croeso Cymru.
  • Yn 2007, 2012 a 2017, cafodd y Gwasanaeth Addysg yng Nghastell Caerdydd Wobr Sandford ar gyfer Addysg Dreftadol. Mae hon yn cydnabod rhagoriaeth cyfleusterau a darpariaeth gweithgareddau addysgol yn y lleoliad.
  • Mae Castell Caerdydd hefyd yn ddeiliad Bathodyn Ansawdd Dysgu y Tu Allan i’r Ystafell Ddosbarth (cyf: R1QB 104035. Dod i ben 16.06.23)
Manylion y Lleoliad
  • Mae’r lleoliad yn cynnig cyfle i ymwelwyr ddarganfod 2000 mlynedd o hanes yng nghanol y ddinas. Gall disgyblion ddysgu am wladychwyr Rhufeinig a meddianwyr o Normandi, gweld yr addurniadau crand Fictoraidd gan William Burges neu ddysgu am sut defnyddiwyd muriau’r Castell fel lloches rhag cyrchoedd awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
  • Mae’r ymweliad arferol yn para tua 3.5 – 4 awr, sy’n rhoi amser am daith dywys y tu mewn, sesiwn yn y Ganolfan Addysg, amser am ginio, ymweliad â’r Gorthwr Normanaidd gan ddefnyddio’r Canllaw Sain, mynediad i’r Bylchfuriau a Lawnt y Castell ac ymweliad â’r Llochesi Rhyfel.
  • Mae taith glywedol ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac mae canllaw yn arbennig i blant yn y ddwy iaith. Gellir ei lawrlwytho ymlaen llaw.
  • Mae hefyd Amgueddfa Filwrol yn y Ganolfan Ddehongli, sy’n cael ei chynnal yn annibynnol. Caiff hon ei rheoli ar wahân ac nid yw’n rhan o Wasanaeth Addysg y Castell.
Nifer yr Ymwelwyr
  • Yn flynyddol, rydym yn croesawu tua 300,000 o ymwelwyr a thua 23,000 o ymwelwyr ysgol domestig.
Addasrwydd
  • Ystyrir bod y lleoliad yn addas ar gyfer disgyblion o bob oedran. Mae rhywbeth yn y Castell i bob cyfnod allweddol.
Manylion Cyswllt
  • I drefnu ymweliad ysgol, ffoniwch y Swyddog Addysg ar 029 2087 8110.
  • Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan – www.castell-caerdydd.com.
  • Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi; fodd bynnag, os ydych chi am drafod agweddau ar eich ymweliad neu hoffech drefnu ymweliad cyn dod, mae croeso i chi gysylltu â’r Swyddog Addysg – Elizabeth Stevens ar 029 2087 8110 neu 029 2087 8100 neu e-bost EStevens@caerdydd.gov.uk
  • Rydym yn argymell ymweliad yn fawr os yw’n bosibl – yn enwedig ar gyfer y grwpiau a fydd yn defnyddio’r Ganolfan Addysg.

 

  • Mae gan y lleoliad rif ffôn mewn argyfwng ar gyfer ymwelwyr, os oes angen cymorth arnynt tra eu bod ar y safle. Sylwer mai 07970 127657 yw’r rhif a bod staff ar gael yn ystod yr oriau agor.
  • Os oes gennych chi bryderon ar ôl eich ymweliad, neu os ydych yn cael unrhyw broblemau o ran rheolaeth y lleoliad neu iechyd a diogelwch aelodau’ch grŵp, mae croeso i chi drafod y rhain â ni.

Ffôn: 029 2087 8100
E-bost: castellcaerdydd@caerdydd.gov.uk

GWYBODAETH GYFFREDINOL

Baw Anifeiliaid Mewn Ardaloedd Mynediad Cyhoeddus
  • Mae Lawnt y Castell ar agor ar hyn o bryd fel “Sgwâr Cyhoeddus” a chaniateir cŵn os ydyn nhw’n cael eu cadw ar dennyn. Gofynnir i’r perchogion lanhau ar ôl eu cŵn.
Systemau Cyfathrebu
  • Mae gan holl staff y lleoliad gymhorthion cyfathrebu a byddant yn fodlon cynorthwyo ag unrhyw ymholiadau.
Hanes Troseddol / Achosion Sifil
  • Mae disgwyl i’r grwpiau fod yng nghwmni athrawon trwy’r amser. Felly, ni ddylai staff y castell fod mewn sefyllfa lle maent yn gweithio’n unigol gyda phlant. Cymerir pob dull rhesymol i sicrhau bod staff y lleoliad a allai fod ar eu pennau eu hunain gyda disgyblion neu mewn cysylltiad sylweddol â phlant wedi cael profion y GDG.
Dringo / Peryglon Baglu
  • Gwaherddir dringo coed ac ar waliau yn y lleoliad.
  • Darbwyllwch y plant rhag dringo’r canonau a’r gynnau maes rhag ofn iddynt syrthio.
  • Mae llwybrau cobls mewn sawl ardal ar y safle, yn ogystal â nifer o beryglon baglu, y dylech fod yn wyliadwrus yn eu cylch.
  • Mae ‘graean clymedig’ o flaen y Ganolfan Ddehongli a’r rhan fwyaf o’r dramwyfa. Er bod plant yn llai tebygol o sgidio ar hyd yr arwyneb hwn na graean rhydd, os syrthiant arno, cânt friw cas.
  • Felly, rydym yn gofyn i chi sicrhau nad yw plant yn rhedeg ar hyd yr arwyneb hwn. Mae croeso iddyn nhw ladd egni ar y glaswellt ond byddem yn gofyn nad ydynt yn chwarae gemau pêl o flaen y tŷ. Gellir defnyddio’r ardal laswellt fwy ar gyfer hynny.
Gadael Mewn Argyfwng
  • Mae gweithdrefn gadael mewn argyfwng ar waith. Mae holl staff y lleoliad yn gyfarwydd â hon.
  • Bydd aelod o staff gyda grŵp bob amser, a bydd yn arwain proses adael yr adeilad os oes angen. Y Ganolfan Addysg yw’r unig eithriad oherwydd ei bod yn bosibl y gadewir athrawon gyda’u grwpiau yn y ganolfan heb gymorth aelod o staff, e.e. wrth fwyta cinio yno. Fodd bynnag, bydd aelodau o staff gerllaw a fydd yn helpu mewn achos annhebygol o argyfwng.
  • Mae Hysbysiadau gadael yr adeilad ar ddangos yn y Ganolfan Addysg. Rydym yn eich cynghori i ymgyfarwyddo â’r rhain ac annog eich cydweithwyr i wneud yr un peth ar ddechrau’r sesiwn.
  • Os oes angen gadael yr adeilad, ewch i’r glaswellt y tu allan i’r Ganolfan Addysg oni chewch gyfarwyddyd yn dweud yn wahanol gan aelod o staff y Castell. Mae’n bwysig cadw’r holl ardaloedd yn y dramwyfa yn glir rhag ofn bod angen i injan dân ddod.
  • Os clywch y larwm, rhaid i’r holl ymwelwyr fynd i’r Man Ymgynnull penodol. Gadewch yr holl gotiau a bagiau yn yr ystafelloedd ac annog y plant i aros yn dawel a pheidio â rhedeg na gwthio’r rhai o’u blaenau.
  • Os seinia larwm pan ydych yn defnyddio’r Ganolfan Addysg, gofynnwn i chi geisio clirio Ystafell Ceidwad y Tŷ (Ystafell 1) yn gyntaf er mwyn gwneud lle i bobl sydd yn Ystafell y Stiward (Ystafell 2) gael mynd allan. Daw aelod staff i sicrhau nad oes unrhyw un ar ôl yn yr ystafell nac ardal y toiledau.
  • Os ydych yn defnyddio lle cinio dan do, fel yr Is-grofft neu’r Bar, neu doiledau’r Ganolfan Addysg, dilynwch yr arwyddion allanfa dân gwyrdd i ddod o hyd i’ch ffordd allan ac ymgynnull ar y glaswellt o flaen y prif adeilad. Bydd angen i grwpiau yn nhoiledau’r Is-grofft a’r Ganolfan Addysg ganiatáu i ddosbarthiadau eraill o’r Ganolfan Addysg ymadael yn gyntaf. Bydd aelod o staff yn dod i wirio’r ardaloedd i sicrhau bod pawb wedi gadael.
  • Pan fyddwch yn y mannau ymgynnull, cyfrwch aelodau eich grŵp a rhoi gwybod i aelod o staff yn syth os oes rhywun ar goll.
Cyfleusterau i Ymwelwyr ag Anghenion Ychwanegol.
  • Mae’r lleoliad yn ceisio ateb gofynion ymwelwyr ag anghenion ychwanegol. Rhaid i ysgolion ac arweinwyr partïon sicrhau bod trefniadau addas ar waith er mwyn rhoi goruchwyliaeth a chymorth addas i ddisgyblion ag anghenion ychwanegol.
  • Nam corfforol – Mae mynediad i gadeiriau olwyn yn bosibl i’r Ganolfan Addysg a’r Is-grofft, ond mae llawer o risiau i fynd i’r prif adeilad a’r Gorthwr, gyda llawer o lefelau gwahanol a drysau cul o fewn yr adeilad. Felly, yn anffodus, nid yw’r ardaloedd hyn yn hygyrch i’r rhai sydd ag anawsterau symudedd.
  • Mae lifft yn y Ganolfan Ddehongli, sy’n rhoi mynediad i’r Bylchfuriau a’r Llochesi Cyrchoedd Awyr ac mae modd mynd i’r rhain ar hyd llwybr llethr hefyd.
  • Nam ar y Golwg – Lle bynnag y bo modd o fewn terfynau’r hyn a ganiateir mewn adeilad hanesyddol, mae ymylon y grisiau yn y lleoliad wedi’u gwneud yn fwy amlwg gyda phaent gwyn ar bob gris y gellir ei baentio. Gallai fod rhai grisiau heb eu paentio o hyd oherwydd natur yr adeilad. Mae lefel y goleuo yn yr ardaloedd y tu mewn yn dda’n gyffredinol.
  • Mae casgliadau trin â llaw yn nwy ystafell y Ganolfan Addysg a gellir trefnu taith wedi ei haddasu’n arbennig y tu mewn i’r Castell ar gais. Mae fersiwn o’r Canllaw Sain sydd wedi’i ysgrifennu’n arbennig ar gyfer y rhai â nam ar eu golwg.
  • Nam ar y clyw – Rydym yn argymell eich bod yn rhoi gwybod i staff Caerdydd wrth gyrraedd y Castell os oes rhywun â nam ar y clyw yn eich grŵp er mwyn i staff allu ceisio helpu pan fo’n bosibl. Mae cylch clywed yn y Ganolfan Addysg. Rhowch wybod i’r Swyddog Addysg os ydych chi am ddefnyddio’r cylch. Mae fersiwn ac arwyddion o’r Canllaw Sain ar gyfer y rhai â nam ar eu clyw a fersiynau print bras o sgript y canllaw sain ar gael hefyd.
Cymorth Cyntaf
  • Mae nifer o gynorthwywyr cymorth cyntaf ar y safle gyda mynediad i fagiau cymorth cyntaf ag offer llawn. Os oes angen cymorth, ewch at yr aelod staff agosaf atoch a fydd yn cysylltu â’r swyddog cymorth cyntaf perthnasol yn syth.
  • Os oes argyfwng tra byddwch yn y Ganolfan Addysg, ffoniwch 029 2087 8100 a gofynnwch i aelod staff gysylltu â’r swyddog cymorth cyntaf ar ddyletswydd.
Teithiau Tywys
  • I ymweld â’r Tŷ (rhan Oes Fictoria’r Castell), caiff tywysydd (a elwir yn Groesawydd Ymwelwyr) ei neilltuo i’ch grŵp sydd â phrofiad a gwybodaeth sylweddol ac a fydd gyda’ch grŵp trwy gydol y daith dywys trwy’r tu mewn i’r adeilad.
  • Gall ymwelwyr sy’n defnyddio’r canllaw sain wneud hynny yn eu hamser eu hunain ac mewn unrhyw drefn y dymunent (gan ddefnyddio’r paneli safle sydd ar hyd y safle).
  • Bydd y Canllaw Sain yn eich tywys i’r Gorthwr (grisiau serth a throellog), ar hyd Llwybr y Bylchfuriau a thrwy’r Llochesi Cyrchoedd Awyr. Mae yna hefyd mannau aros Canllaw Sain o fewn y Tŷ ei hun. Sicrhewch fod y plant i gyd yn troedio’n ofalus wrth grwydro. Mae sgrîn ar declyn llaw y canllaw ac rydym yn argymell eich bod yn aros yn llonydd wrth ei ddefnyddio rhag ofn i chi faglu neu gerdded yn erbyn rhywbeth.
Cyfyngiad Uchder
  • Mae cyfyngiad uchder o 3373mm a hyd o 2642mm trwy brif giât y Castell er na chaniateir i gerbydau ddod i’r safle oni bai y ceir caniatâd ymlaen llaw.
Yswiriant (Atebolrwydd Cyhoeddus)
  • Mae gennym yswiriant atebolrwydd cyhoeddus neu drydydd parti hyd at £50 miliwn.
  • Rhoddir copi o’n hyswiriant i ymwelwyr ar gais.
Mynd ar Goll
  • Oherwydd natur y lleoliad, cofiwch fod risg yr aiff plant ar goll os byddant yn crwydro o grwpiau wedi’u trefnu.
Gorsafoedd Pobl ar Goll
  • Dylai unrhyw un a aiff ar goll fynd i’r ardal ger y brif giât a chael ei gasglu oddi yno (bydd aelod o staff yn sicrhau diogelwch plentyn tra bydd yn aros yno).
  • Os yw athro neu arweinydd grŵp yn sylweddoli bod plentyn wedi’i wahanu oddi wrth ei grŵp, rhowch wybod i’r staff wrth y giât neu’r Swyddfa Docynnau a fydd yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr radio i helpu i ddod o hyd i’r plentyn.
Uchafswm Maint y Grwpiau
  • Gall pob taith dywys ar gyfer grwpiau ysgolion domestig yn ogystal â phob ystafell yn y Ganolfan Addysg ddarparu ar gyfer hyd at 35 o bobl, gan gynnwys athrawon ac oedolion cynorthwyol.
  • Yn ystod pandemig Covid-19, roedd uchafswm niferoedd ar deithiau tywys wedi gostwng yn sylweddol ac roedd yn rhaid i athrawon rannu dosbarthiadau ar gyfer teithiau tywys.
  • Pe bai angen lleihau maint y grwpiau, darperir y gwybodaeth wrth i chi drefnu eich ymweliad neu mewn e-bost.
  • Rydym yn gweithredu cymarebau oedolion-plant ar gyfer ymweliadau ysgol, sydd fel a ganlyn:
    – Plant Ysgol Feithrin – 1 oedolyn i bob 3 phlentyn
    – Plant Oedran Derbyn – 1 oedolyn i bob 5 plentyn
    – Blynyddoedd 1 a 2 – 1 oedolyn i bob 6 phlentyn
    – Blynyddoedd 3 i 6 (Cynradd) – 1 oedolyn i bob 10 plentyn
    – Blynyddoedd 7 a hŷn – 1 oedolyn i bob 15 plentyn
  • Bydd y cymarebau yn wahanol i’r rhai sy’n dod gyda phlant ag anghenion arbennig a chytunir ar y rhain wrth drefnu.
  • Rydym hefyd yn hyblyg os oes gan eich awdurdod lleol neu’ch ysgol gymhareb benodol wahanol o oedolion i blant ar gyfer ymweliadau ysgol.
Anghenion Meddygol
  • Dylai’r ysgol neu arweinydd y grŵp gysylltu â’r lleoliad os yw’n hysbys bod ar unrhyw ddisgybl gyflwr/angen meddygol penodol neu ddifrifol. Bydd angen trafod er mwyn ystyried trefniadau mewn argyfwng.
  • Byddwn, pan fo’n ddiogel gwneud hynny, yn ceisio cynnwys disgyblion â chyflyrau penodol neu ddifrifol yn llawn yn y gweithgareddau a gynigir.
Planhigion / Ffyngau Niweidiol / Gwenwynig
  • Ar adegau penodol yn y flwyddyn, mae’n bosibl y bydd aeron gwenwynig ar goed, gwrychoedd ac ar y llawr. Dylai ysgolion roi gwybod i’r holl blant na ddylid hel yr aeron na’u bwyta.
  • Mae rhai mathau o ffyngau hefyd yn tyfu ar gyfnodau penodol. Dylai ysgolion roi gwybod i’r holl blant na ddylid hel y ffyngau na’u bwyta.
Ymddygiad Gofynnol gan Ymwelwyr (dim mynediad i ardaloedd sydd ar gyfer staff y safle yn unig)
  • Ni ddylai ymwelwyr
    – fynd i ardaloedd nad ydynt ar agor i’r cyhoedd, megis ardaloedd ar gyfer staff yn unig;
    – ymddwyn yn afreolus
    – dringo ar y waliau a’r coed
    – mynd i’r bylchfuriau ac eithrio ar y llwybr a ddarperir (h.y. trwy ddringo’r banciau neu ddod i lawr y banciau o’r Bylchfuriau).
    – cymryd lluniau y tu mewn i’r adeilad gan ddefnyddio golau fflach
    – defnyddio ffonau symudol y tu mewn i’r adeilad
    – bwyta neu yfed y tu mewn i’r Tŷ
    – anwybyddu cyfarwyddiadau’r tywysydd/croesawydd ymwelwyr neu unrhyw aelod o staff
  • Ni ddylai arweinwyr grwpiau adael plant heb oruchwyliaeth.
Map Cynllun
  • Mae map ar gael sy’n cynnwys lleoliad y Ganolfan Addysg, y toiledau a’r cyfleusterau arlwyo yn ogystal ag eitemau eraill o ddiddordeb. Cyflwynir hyn i arweinwyr grwpiau wrth gyrraedd y Castell.
Archwiliadau Safle o Gyfleusterau / Ardaloedd y Lleoliad
  • Mae staff y Castell yn cynnal archwiliadau rheolaidd o’r cyfleusterau ac mae proses adrodd fewnol ar waith ar gyfer unrhyw beryglon diogelwch. Cofnodir archwiliadau safle mewn llyfr log.
  • Caiff yr holl offer ei brofi yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn gweithio’n dda.
Adnabod Staff y Safle
  • Mae staff y Castell yn gwisgo gwisg las â logo’r Castell.
  • Gellir adnabod y staff i gyd yn hawdd trwy edrych am y logo neu fathodyn adnabod personol.
Traffig Cerbydau
  • Mae’n bosibl y bydd angen mynediad ar rai cerbydau i’r tiroedd ond prin y bydd hyn. Cedwir at y cyfyngiad cyflymder o 5 m.y.a. yn llym ond dylai arweinwyr grwpiau fod yn ymwybodol y gallai fod cerbydau’n symud.
  • Nid oes lle i barcio bysus ar y safle; fodd bynnag mae maes parcio i fysus gerllaw, yng Ngerddi Sophia – taith tua 15 munud ar droed o’r Castell. Mae hefyd yn bosibl gollwng grwpiau yno, a all wedyn gerdded trwy Barc Bute i Stryd y Castell, lle byddant yn cerdded ar y palmant wrth ochr lôn feicio ddwyffordd i fynedfa’r Castell.
  • Nid yw’n bosibl bellach i fysus ollwng yn uniongyrchol y tu allan i’r Castell. Ar adeg ysgrifennu’r gwaith, mae’r mannau gollwng bysus agosaf yn y gilfan ar Heol y Gogledd (i gyfeiriad y Gogledd), ychydig y tu hwnt i’r Castell a’r tu allan i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae map o’r rhain a’r mannau parcio coetsis ar gael ar gais ac mae gwybodaeth ar wefan Croeso Caerdydd.
Diogelwch Tywydd / Diogelwch yn yr Haul
  • Mae nifer o ardaloedd ar gael ledled y lleoliad sy’n cynnig diogelwch rhag y tywydd (tywydd garw neu ddyddiau poeth o haul). Mae’r rhain yn cynnwys ardaloedd dan un o’r coed yn y Castell, ardaloedd yn y Gorthwr Normanaidd, y Ganolfan Ddehongli, y Llochesi Cyrchoedd Awyr a’r Amgueddfa Firing Line.
  • Mae seddi ychwanegol dan gysgod i ochr dde’r prif Dŷ, y gall grwpiau ysgol eu defnyddio.
  • Rydym yn cynghori’n gryf bod plant yn dod ag eli haul a hetiau pan fo tywydd braf oherwydd bod llawer o ardaloedd agored heb gysgod yn y Castell.
Cyfleusterau Lles
  • Mae toiledau fel arfer ar gael yn gyfagos i’r Ganolfan Addysg, sydd ar gyfer grwpiau addysg yn unig. Mae grisiau eithaf serth i fynd i lawr at y rhain ym mhen draw’r coridor sy’n arwain at y Ganolfan Addysg.
  • Mae toiled i bobl anabl yn y Ganolfan Addysg, wrth ymyl Ystafell Ceidwad y Tŷ.
  • Mae toiledau i ddynion hefyd ger prif fynedfa’r Castell ac mae toiledau ychwanegol i fenywod wrth waelod Tŵr y Cloc.
  • Teras y Gorthwr – Mae’r cyfleuster arlwyo yn y Ganolfan Ddehongli’n cynnig amrywiaeth o fyrbrydau a diodydd.
  • Rydym yn ceisio cynnig man bwyta dan do pan fo’r tywydd yn wael ond ni allwn warantu hyn.
  • Fel lleoliad a gynhelir gan Gyngor Caerdydd, mae gennym bolisi dim ysmygu llym trwy’r safle.

ARDALOEDD RISG UWCH

Gweithgareddau Antur
  • Amherthnasol
Cysylltiad ag Anifeiliaid
  • Amherthnasol
Llety Preswyl
  • Amherthnasol
Reidiau ac Atyniadau ym Mharciau Thema
  • Amherthnasol
Offer / Dillad Diogelu
  • Sylwer yr argymhellir defnyddio eli haul priodol yn arbennig ar gyfer dyddiau hir a phoeth yn yr haf.
Gweithgareddau Tanddaearol
  • Amherthnasol
Cyrsiau Dŵr a Phyllau
  • Mae ffos ddofn o amgylch y Gorthwr. Mae ffens yn amgylchynu’r ffos. Cynghorir athrawon ac arweinwyr grwpiau i beidio â chaniatáu i blant ddringo neu eistedd ar y ffens hon.
  • Mae bwiau achub mewn amryw fannau o amgylch y ffos, y mae staff y Castell yn eu profi’n rheolaidd. Mae’r rhain yn amlwg ac yn oren. Defnyddiwch y rhain os nad oes aelod o staff ar gael i helpu.
  • Os bydd unrhyw aelod o’ch grŵp yn syrthio i’r ffos, rhowch wybod i’r aelod agosaf o staff a fydd yn cymryd rheolaeth ar y sefyllfa, yn gofyn am gymorth ychwanegol ac yn galw am swyddog cymorth cyntaf.
Gwybodaeth Arall Berthnasol (gan gynnwys eitemau na sonnir amdanynt uchod neu os nad ydynt yn ateb manylion unrhyw un o’r manylebion uchod)
  • Sicrhewch fod y plant yn golchi neu’n diheintio eu dwylo cyn ac ar ôl defnyddio’r Ganolfan Addysg.
  • Rydym yn gofyn yn garedig i chi gau pob drws tân os ydych chi’n defnyddio’r Ganolfan Addysg a thoiledau’r Ganolfan Addysg, pan fydd y rhain ar agor. Mae cadw’r rhain ar agor trwy ddefnyddio rhywbeth yn mynd yn groes i reoliadau tân. Sicrhewch hefyd nad ydych yn agor y drws i’r coridor ger y Ganolfan Addysg (ar waelod y ramp). Os ydych yn gweld bod drws tân wedi’i ddal ar agor, byddem yn ddiolchgar petaech yn ei gau. Bydd gofyn i rai drysau aros ar agor i gynorthwyo gydag awyru (rhagofalon Covid-19). Holwch aelod o staff os nad ydych yn siŵr a ddylid gadael drws ar agor ai peidio.
  • Cynhelir digwyddiadau arbennig yn rheolaidd yn ystod y gwyliau ac weithiau ar y penwythnos. Ffoniwch Elizabeth Stevens ar 029 2087 8110 os oes gennych ymholiadau am y digwyddiadau arbennig.

Llofnod: Elizabeth Stevens

Dyddiad: Mai 2023

Enw (prif lythrennau): ELIZABETH STEVENS

Swydd yn y Sefydliad: Swyddog Addysg

Rhif Ffôn: 029 2087 8110

Cyfeiriad e-bost: EStevens@caerdydd.gov.uk

Os hoffech gopi o'r wybodaeth hon yna mae dogfen Word ar gael i'w lawrlwytho.

Mae’r cynnwys hon hefyd ar gael yn Saesneg / This content is also available in English

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.