Neidio i'r prif gynnwys

Llywelyn Bren

Mae Llywelyn Bren (ap Gruffydd) yn arwr anghofiedig braidd yn hanes Cymru’r Oesoedd Canol, ac yn dipyn o ffigwr Robin Hood mewn llên gwerin lleol.

Uchelwr Cymreig lleol o Dŷ Senghenydd oedd Llywelyn , gor-ŵyr i Ifor Bach, a disgynnydd i Rhys ap Tewdwr (Brenin y Deheubarth). Roedd ei ddaliadau tir lleol, o bosibl wedi’u lleoli o amgylch y castell yng Ngelligaer (i’r gogledd o Gaerffili) wedi dod o dan ddylanwad Arglwyddiaeth bwerus y Mers ar Forgannwg, gan ei wneud yn fassal i’r rheolwr lleol.

Ar bob cyfrif yr oedd Llywelyn ar delerau da, ac wedi dal y swydd, mae’n debyg, o dan Gilbert de Clare, 8fed Iarll Caerloyw ac Arglwydd Morgannwg. Fodd bynnag, aeth pethau’n sur pan laddwyd Gilbert ym mrwydr Bannockburn ym 1314. Heb etifedd gwrywaidd cydnabyddedig, trosglwyddwyd gweinyddiaeth ei diroedd i’r goron.

Penododd y Brenin, Edward II, uchelwr lleol arall, Payne de Turberville o Goety (ger Pen-y-bont ar Ogwr) yn geidwaid (siryf) Morgannwg. Ymddengys nad oedd Payne yn hoff o Gymry ac yn trin y bobl leol, a oedd eisoes yn dioddef o newyn difrifol, yn wael iawn.

Teimlai Llywelyn fod rheidrwydd arno i wadu’r weinyddiaeth newydd, cafodd ei gyhuddo o elyniaeth a’i wysio i ymddangos gerbron y Brenin, dan fygythiad o grogi os ceir yn euog. Heb ddisgwyl gwrandawiad teg, ac ofn am ei fywyd, ffodd Llewelyn am adref yn gyfrinachol a lansio gwrthryfel trwy osod gwarchae ar gastell Caerffili ar 28 Ionawr 1316.

Mae hanes yn dweud wrthym nad oedd digwyddiadau wedi troi allan yn rhy dda i Llywelyn Bren ond, os hoffech glywed hanes llawn y bennod gyffrous hon yn hanes Cymru, gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu lle ar Black Tower Tales. Yr atyniad teuluol trochol hwn sy’n dod â hanes yn fyw yn yr union fan lle y digwyddodd, ac mewn ffordd na fyddwch yn anghofio’n fuan!

Darganfyddwch fwy trwy edrych ar ein Teithiau Tywys, neu holwch yn swyddfa docynnau’r Castell am ragor o wybodaeth.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.