Neidio i'r prif gynnwys

3ydd Ardalyddes Bute

Y Fonesig Gwendolen Mary Anne Stuart (Fitzalan-Howard)

Ganwyd: 21 Chwefror 1854
Bu farw: 15 Ionawr 1932 (77 oed)

Roedd y Fonesig Gwendolen yn ferch i Edward George Fitzalan-Howard, Barwn 1af Glossop, ac yn wyres i 13eg Dug Norfolk.

Priododd John Patrick Crichton-Stuart, 3ydd Ardalydd Bute, ar 16 Ebrill 1872. Yn dilyn eu priodas yn Llundain, treuliodd y pâr hapus eu mis mêl yng Nghaerdydd.

Roedd y pâr yn hapus iawn gyda’i gilydd ac, er gwaethaf cyfaddef nad oedd ei gŵr deallusol “yn yr adran ymennydd”, roedd Gwendolen yn ymwneud yn fawr â phrosiectau pensaernïol yr Ardalydd, gan gynnwys y gwaith ailadeiladu helaeth yma yng Nghastell Caerdydd.

Gyda’i gilydd, roedd ganddynt bedwar o blant:

Y Fonesig Margaret Crichton-Stuart (24 Rhagfyr 1875)
John, 4ydd Ardalydd Bute (20 Mehefin 1881)
Yr Arglwydd Ninian Edward Crichton-Stuart (15 Mai 1883)
Yr Arglwydd Colum Edmund Crichton-Stuart (3 Ebrill 1886)

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.