Beth wyt ti'n edrych am?
Gwaith Celf y Llewod
SKY SPORTS a NOW I DDADORCHUDDIO GWAITH CELF ‘CANFYDDIADOL’ TRAWIADOL O FLAEN GEMAU PRAWF Y LLEWOD
BYDD Y GOSODIAD CELF YN DOD AG ANGERDD Y LLEWOD I GASTELL CAERDYDD
Er mwyn helpu i fwydo’r cyffro cyn gêm Brawf agoriadol y Cyfres Castle Lager y Llewod 2021, mae Sky Sports a NOW wedi comisiynu teyrnged artistig i gefnogwyr yn ôl adref ar Ynysoedd Prydain.
Gan feddiannu Castell Caerdydd, mae’r gosodiad celf wedi ei ysbrydoli gan y daith Rygbi hanesyddol sy’n swyno cefnogwyr gwledydd Prydain ac Iwerddon bob pedair blynedd. Bydd cefnogwyr ac aelodau’r cyhoedd ym mhrifddinas Cymru yn gallu sawru’r awyrgylch a rhannu eu hangerdd yn absenoldeb cefnogwyr teithiol mewn stadia.
Wedi ei godi ar dir castell eiconig y ddinas â’i hanes dros 2,000 o flynyddoedd, mae’r darn celf ‘canfyddiadol’ yn cymryd dwy ffurf wahanol, yn dibynnu ar o ba safbwynt y caiff ei weld – sy’n golygu bod yn rhaid i’r gwyliwr symud o amgylch y gosodiad i weld ei ffurf yn pylu nes ei fo yn rhyw darth annelwig, cyn iddo ailymffurfio yn siâp cwbl newydd.
O un ongl, bydd y gwaith celf yn dangos Llew llawn penderfyniad yn gwibio â’r bêl yn ei law tuag at y llinell gais; o ongl arall, bydd yn darlunio pen llew go iawn yn rhuo.
Mae’r gwaith celf, “The Lion”, yn 7m x 7m o ran maint, ac mae’n cynnwys 300 o bibellau yn crogi o ffrâm ac wedi’i lapio â 180 metr o brintiau finyl lliw, gyda phob lliw yn cynrychioli’r pedair gwlad sy’n cyfuno i greu carfan y Llewod.
Mae Sky Sports a NOW yn cydweithio â’r Artist Canfyddiadol Michael Murphy i greu’r gwaith celf, a ddisgrifir fel “rhith o ddelweddau a osodwyd yn ôl i ofod tri dimensiwn” i gynrychioli’r “Môr Coch” sef angerdd cefnogwyr enwog y Llewod, nad ydynt yn gallu dilyn a chefnogi’r garfan yn Ne Affrica ar gyfer taith 2021.
Bydd cefnogwyr y Llewod yn gallu ymweld â Chastell Caerdydd i weld “Y Llew” yn ei le o 14 Gorffennaf, lle bydd yn ei le â chefndir trawiadol muriau’r castell yn gefnlen iddo drwy’r penwythnos, wrth i’r Llewod fynd i’r afael â De Affrica yng ngêm brawf agoriadol y daith.
Dwedodd Uwch Gynhyrchydd Rygbi’r Undeb Sky Sports, James Lewis: “Gyda chefnogwyr yn methu teithio i gefnogi’r Llewod i stadia yn Ne Affrica, roedden ni eisiau gwneud rhywbeth yn ôl gartref i adeiladu’r cyffro cyn i’r gemau Prawf ddechrau, pan fydd cefnogwyr yn bloeddio dros y garfan o’u hystafelloedd byw.”
Ychwanegodd yr artist Michael Murphy: “Rwy’n wirioneddol gyffrous i ddadorchuddio’r gwaith celf yma – sydd â’r enw syml “Y Llew” i ddathlu Taith y Llewod i Dde Affrica gyda’r hyn rwy’n ei alw’n “gerflun rhith aml-gyfeiriadol” – delwedd hanner tôn wedi’i rendro mewn gofod tri dimensiwn. Wrth i wylwyr nesáu at y cerflun, bydd rhith o chwaraewr rygbi yn dechrau dod i’r golwg, a fydd, wrth iddynt gerdded naw deg gradd o amgylch y gwaith celf, yn trawsnewid yn rith o ben Llew yn rhuo.”
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury: “Mae hon yn deyrnged addas i dîm Llewod Prydain ac Iwerddon, a osodwyd yn lleoliad hanesyddol Castell Caerdydd, a thafliad carreg o Stadiwm Principality, un o’r lleoliadau mwyaf eiconig o ran rygbi’r byd. Bydd llawer o gefnogwyr siomedig yng Nghymru, wedi iddyn nhw feddwl eu bod nhw’n mynd i Dde Affrica i gefnogi’r tîm o’r standiau, ond mae’r gwaith celf hwn yn symbol o’r gefnogaeth fawr y bydd y Llewod yn dal i’w chael o adref.”
Bydd cefnogwyr y Llewod yn gallu gwylio tair gêm Brawf y daith ar sianel dros dro arbennig Sky Sports The Lions, yn ogystal â llu o gynnwys ychwanegol am y Llewod gan gynnwys rhaglenni dogfen, gemau o’r archif a chynnwys y tu ôl i’r llenni.
Mae Taith y Llewod i Dde Affrica yn ychwanegu at haf prysur eisoes o chwaraeon ar Sky Sports eleni. Bydd fformat mwyaf newydd y byd Criced, Y Cant yn dechrau ar 21 Gorffennaf, tra bydd Lloegr yn croesawu Sri Lanka, Pacistan ac India ar gyfer criced rhyngwladol yr haf hwn. Cynhelir golff The Open yn Royal St. George’s o 15 Gorffennaf. Yn ogystal â hynny, Sky Sports yw cartref pêl-droed domestig gyda’r Uwch Gynghrair, yr EFL ac Uwch Gynghrair yr Alban am y tro cyntaf yn croesawu Uwch Gynghrair Menywod yr FA. Ar ben hynny, mae Anthony Joshua wedi’i drefnu i wynebu Alexandr Usyk ym mis Medi yn fyw ar Sky Sports Box Office a llawer, llawer mwy!