Beth wyt ti'n edrych am?
CAU FFORDD: WALES VS NEW ZEALAND AR 30 HYDREF
Bydd Cymru’n wynebu Seland Newydd ddydd Sadwrn, 30 Hydref yn Stadiwm Principality.
Gyda’r gic gyntaf am 5.15pm – bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 1.15pm tan 8.15pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn i’r stadiwm yn ddiogel.
Cau Ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas, am 1.15pm:
- Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
- Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).
- Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
- Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n gyfan gwbl: Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
- Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa’r Orsaf a Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Bydd hyn er mwyn sicrhau bod mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren ar Ffordd Churchill.
Ychwanegiadau:
Canolfan Ddinesig: Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat.
Ymhlith y ffyrdd bydd hyn yn effeithio arnynt mae Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.