Cau: Dydd Gwener 18 Chwefror 2022
CAU OHERWYDD STORM EUNICE
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd coch ar gyfer rhannau o dde Cymru, gan gynnwys Caerdydd, ar ddydd Gwener, 18 Chwefror. Mae rhagolygon gwyntoedd eithriadol o uchel, yn enwedig mewn ardaloedd arfordirol, wrth i Storm Eunice symud yn nes at y Deyrnas Unedig.
Er budd iechyd a diogelwch ein hymwelwyr a’n staff, bydd Castell Caerdydd ar gau am y diwrnod cyfan.
Gallwch ddod o hyd i gyngor diogelwch gan y Swyddfa Dywydd ar eu gwefan, arhoswch yn ddiogel a diolch i chi am eich dealltwriaeth.
Tîm Castell Caerdydd.