Beth wyt ti'n edrych am?
Teuluoedd Herbert a Windsor
1551 – 1776 OC
Roedd William Herbert yn ŵr dylanwadol yn Llys y Tuduriaid, er iddo gael ei ddisgrifio fel ymladdwr gwyllt yn ei ieuenctid.
Caffaelodd William gryn dipyn o eiddo yn ne Cymru drwy garedigrwydd y brenin. Pan fu farw Harri VIII ym 1547, daeth William, un o ysgutorion y brenin, yn un o gynghorwr y brenin ifanc Edward VI, a bu William yn dal swyddi eraill pwysig iawn ar ran y goron. Fe’i urddwyd yn Farwn Herbert o Gaerdydd ac Iarll Penfro ym 1551, pan roddwyd castell Caerdydd iddo, yn ogystal â Chastell Caerffili, Castell Coch a thiroedd helaeth. Ehangwyd Castell Caerdydd gan ei fab Harri, yr ail Iarll, a gwnaeth ef gryn dipyn i foderneiddio’r castell yn ystod y 1580au.
Pan ddechreuodd Rhyfel Cartref Lloegr ym 1642, roedd Castell Caerdydd ym meddiant Iarll a oedd yn cydymdeimlo â’r ‘rebeliaid’. Fodd bynnag, bu castell Caerdydd ym meddiant cefnogwyr y Brenin a chefnogwyr y Senedd am gyfnodau yn ystod y Rhyfel Cartref. Difrodwyd y castell yn sylweddol yn ystod y Rhyfel Cartref, a bu’n rhaid rhoi’r gorau i ddefnyddio’r gorthwr fel preswylfa wedi hynny oherwydd maint y difrod.
Prin yw’r amser a dreuliwyd gan yr Herbertiaid yng Nghaerdydd yn ystod y 17 ganrif. Roedd yn well ganddynt eu plasty mawreddog yn Wilton. Llwyddodd y 7fed Iarll, sef llofrudd bwystfilaidd heb etifedd gwrywaidd, i drosglwyddo’r ystadau yng Nghymru i’w ferch. Yn ystod oes y 7fed Iarll, carcharwyd y Tad John Lloyd a’r Tad Philip Evans yn y Tŵr Du, ac fe’u crogwyd, diberfeddwyd a’u chwarterwyd am deyrnfradwriaeth fel reciwsantiaid Catholig ym 1679.
Trosglwyddwyd yr hyn a oedd yn weddill o ystadau’r Herbertiaid ym Morgannwg i Thomas, Is-iarll 1af Windsor pan briododd â Charlotte Herbert, merch ac etifeddes Philip, y 7fed Iarll, ym 1703.
Daeth y tiroedd ym Morgannwg, gan gynnwys Castell Caerdydd, yn eiddo i deulu Bute ym 1776 drwy briodas Charlotte Jane Windsor â’r Arglwydd Mountstuart. Ef oedd Ardalydd cyntaf Bute yn ddiweddarach.