Beth wyt ti'n edrych am?
Teulu Neville
1449 – 1486 OC
Trosglwyddwyd etifeddiaeth sylweddol Richard Beauchamp i’w chwaer Ann. Roedd Ann yn briod â Richard Neville, a urddwyd yn Iarll Warwig ym 1450, pan ddaeth i oed, ac ymunodd yntau â helyntion gwleidyddiaeth yr oes ddwy flynedd yn ddiweddarach, gan ddatgan ei gefnogaeth o blaid Richard o Gaerefrog yn erbyn Harri VI (a oedd wedi rhoi anrhydeddau sylweddol i deulu ei wraig) ym 1455.
Galwyd ef yn ‘Warwig y Gwneuthurwr Brenhinoedd’ yn ddiweddarach, ac roedd e’n ŵr uchelgeisiol iawn a oedd yn ymwneud â buddiannau tiriogaethol. Chwaraeodd yntau ran bwysig yn Rhyfel y Rhosynnau hefyd, ond fe’i lladdwyd ar faes y gad ym 1471.
Roedd dwy ferch gan Richard Neville, a thrwy ei ferch iau, Ann, trosglwyddwyd Castell Caerdydd i’w gŵr Richard, Dug Caerloyw (sef y Brenin Richard III yn ddiweddarach) a ddaeth yn Arglwydd Caerdydd. Esgynnodd Richard o Gaerloyw i’r orsedd. Penodwyd ei asiant ym Morgannwg, Syr James Tyrell, yn Gwnstabl Castell Caerdydd, a thybir mai ef fu’n gyfrifol am lofruddio’r ddau dywysog ifanc yn Nhŵr Llundain.